Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r BSc Rheoli Busnes wedi'i chynllunio ar gyfer meddylwyr chwilfrydig a blaengar sy'n barod i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut mae sefydliadau'n gweithio, syniadau'n tyfu a sut mae newid yn digwydd yn lleol ac yn fyd-eang. Byddwch yn archwilio'r gwerthoedd sy'n diffinio busnes modern - cynaliadwyedd, cynwysoldeb, moeseg ac arloesi - ac yn darganfod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Mae ein rhaglen yn cyfuno damcaniaeth a dysgu ymarferol, gan sicrhau eich bod yn datblygu sylfaen gadarn mewn meysydd busnes allweddol megis cyllid, economeg, marchnata, dadansoddeg a menter. Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi drwy gysylltiadau rheolaidd â busnesau, entrepreneuriaid ac arloeswyr, wrth i chi elwa o'n partneriaethau cryf â sefydliadau lleol a rhyngwladol.
Cewch eich addysgu o gwricwlwm sy'n cael ei arwain gan ymchwil a'i lywio gan ddiwydiant ac sy'n mabwysiadu safbwynt byd-eang gan gysylltu damcaniaeth yn uniongyrchol â thueddiadau ym myd diwydiant a materion byd go iawn. Cewch eich grymuso i ffynnu mewn cyd-destunau proffesiynol amrywiol, gan wneud cyfraniadau ystyrlon at weithredu busnesau ac ymateb yn effeithiol i heriau economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol byd-eang.
Mewn byd sy'n newid yn gyson, lle mae technoleg yn datblygu'n gyflym, lle mae marchnadoedd yn gweddnewid dros nos a heriau byd-eang yn trawsnewid y ffordd mae sefydliadau'n gweithredu, bydd y BSc Rheoli Busnes yn eich paratoi i lunio llwyddiant mewn byd bythol newidiol.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.