Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd Economeg a Chyllid yn darparu sylfaen gadarn mewn damcaniaeth economaidd fodern a'r offer dadansoddol, meintiol ac ariannol sydd eu hangen i ddeall sut mae marchnadoedd a sefydliadau ariannol yn gweithio, a sut mae grymoedd economaidd yn llunio penderfyniadau gan gwmnïau a llywodraethau. Mae'r rhaglen wedi'i chreu ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau cyfuno dealltwriaeth ddofn o egwyddorion economaidd gyda hyfforddiant arbenigol mewn dadansoddi ariannol, rheoli risg, a chyllid corfforaethol.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddol medrus trwy astudio micro-economeg, macro-economeg, a dulliau ystadegol ac econometrig, gan roi’r offer i chi ddeall sut mae economïau yn gweithio, sut mae polisi yn effeithio ar ganlyniadau, a sut mae marchnadoedd yn ymateb i siociau a chymhellion. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan y modiwlau cyllid sy'n archwilio sut mae marchnadoedd ariannol yn gweithio, sut mae cwmnïau yn gwneud penderfyniadau buddsoddi a chyllido, a sut mae asedau ariannol yn cael eu prisio yn ymarferol.
Wedi'i greu i fodloni disgwyliadau cyflogwyr ym maes cyllid, ymgynghori, polisi ac ymchwil, mae'r radd BSc Economeg a Chyllid yn cefnogi ystod eang o uchelgeisiau gyrfa - p'un a ydych chi'n anelu at weithio fel economegydd, dadansoddwr ariannol, banciwr buddsoddiadau, rheolwr risg, neu ddadansoddwr portffolio, neu os ydych chi'n bwriadu parhau i astudio ar lefel ôl-raddedig.