Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr yn llyfrgell

Trosolwg o'r Cwrs

Darganfod y straeon, y lleisiau a'r diwylliannau sy'n  llunio ein byd.

Mewn byd amlieithog, mae deall dylanwad iaith a llenyddiaeth ar hunaniaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant yn bwysicach nag erioed. Mae ein gradd BA Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg yn eich gwahodd i archwilio pŵer geiriau, ar draws canrifoedd, cyfandiroedd ac ieithoedd, gan feithrin y sgiliau a'r rhuglder i gyfathrebu'n hyderus mewn byd sy'n fwyfwy cyd-gysylltiedig a chyd-ddibynnol.

Mae'r radd ryngddisgyblaethol a dynamig hon yn cyfuno cyfoethogrwydd astudio llenyddiaeth yn Saesneg â dyfnder deallusol a diwylliannol iaith fodern.

Mae'r cyfuniad unigryw hwn o astudio llenyddiaeth ac ymarfer iaith yn eich galluogi i agor drysau i yrfaoedd yn y DU a thramor, o gyfieithu a threftadaeth ddiwylliannol i sefydliadau rhyngwladol, amgueddfeydd a diwydiannau diwylliannol a'r tu hwnt. Mae hyblygrwydd iaith yn ehangu eich gorwelion cyflogadwyedd, gan eich galluogi i weithio'n hyderus gyda phartneriaid a sefydliadau byd-eang ac i gyfathrebu'n hwylus ar draws ffiniau.

Bydd yr elfen llenyddiaeth o'r radd hon yn ategu'r llwybrau hyn drwy ddyfnhau eich galluoedd dadansoddi a meithrin y ddealltwriaeth empathig a diwylliannol sy'n hanfodol i chi gyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas fyd-eang gyd-gysylltiedig a datblygol.

Pam Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe?

Addysgir y rhaglen ar gampws hyfryd Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ar ymyl Penrhyn Gŵyr;

Mae Ieithoedd Modern yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Ar y brig o ran Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 4ydd yn y DU ar gyfer Boddhad â'r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU yn Gyffredinol (Guardian University Guide 2026
  • 100% am Foddhad Cyffredinol* (NSS 2025)

*Aseswyd o dan 'Ieithyddiaeth' (C28, NSS 2025)

Mae Saesneg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • 11eg yn y DU ar gyfer Effaith Ymchwil (REF 2021)
  • Ymysg y 15 adran orau yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Ymysg y 25 adran orau yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Ymhlith y 101-150 o brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025)

Mae ein darlithwyr yn awduron, yn ieithyddion ac yn gyfieithwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr ymchwil mewn pynciau megis ffilm, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth, astudiaethau theatr a chyfieithu.

Eich profiad Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg

Mae arloesi wrth wraidd y radd hon. Mae'n cyfuno nodweddion rhyngddisgyblaethol cyfoethog sy'n tynnu ynghyd feysydd academaidd niferus a'r traddodiadau diwylliannol ac ieithyddol amrywiol sydd wrth wraidd y llwybrau Ieithoedd Modern. Mae'r rhaglen hon yn archwilio'r cysylltiadau rhwng y meysydd hyn gan amlygu eu perthnasedd i'r tirweddau proffesiynol ehangach sy'n gysylltiedig â phob llwybr.

Mae technoleg yn rhan allweddol o Ieithoedd Modern, gan gyfoethogi eich profiad dysgu. Bydd gennych fynediad at labordai rhithwir ac amgylcheddau wedi'u hefelychu arloesol sy'n agor y drws i ddysgu ymarferol, yn enwedig mewn meysydd fel cyfieithu ac addysg iaith. Mae'r adnoddau hyn yn eich helpu i gysylltu'r hyn rydych yn ei astudio yn y dosbarth ag ymarfer yn y byd go iawn, gan feithrin yr hyder a'r sgiliau bydd eu hangen arnoch chi mewn lleoliadau proffesiynol.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio blwyddyn dramor yn un o'n sefydliadau partner yn yr Unol Daleithiau, Canada, Hong Kong, Singapore, Ffrainc, Gwlad Belg, y Swistir, Sbaen, yr Almaen neu Awstria, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleodd Cyflogadwyedd Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg

Mae graddedigion ein gradd BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ieithoedd Modern yn datblygu set sgiliau gyfoethog ac amrywiol a fydd yn eich paratoi am amrywiaeth o yrfaoedd yn y sectorau creadigol, diwylliannol a chyfathrebu.

Mae rhai o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i rolau yn y meysydd canlynol:

  • Addysg ac ymchwil
  • Marchnata
  • Llywodraeth, cyrff anllywodraethol a'r gwasanaethau cyhoeddus
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Gweinyddu prosiectau
  • Addysgu
  • Gwaith dyngarol
  • Newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyhoeddi
  • Gwasanaethau cyhoeddus

Mae'r radd hon yn cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol oherwydd ei sgiliau trosglwyddadwy a chyflogadwyedd. Byddwch yn datblygu sgiliau megis cyfathrebu, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a meddwl yn ddadansoddol. Wedi graddio o'r rhaglen hon, bydd galw mawr amdanoch chi oherwydd eich sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu y bydd mantais fawr gennych mewn marchnad swyddi sydd fwyfwy wedi'i globaleiddio.

Hefyd bydd cyfleoedd amrywiol ar gael i ymgymryd ag astudiaethau pellach ar lefel Meistr ac ymchwil, gan gynnwys rhaglenni MA sy'n arwain at gyfleoedd PhD.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Ieithoedd Modern a Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)