Ieithoedd Modern, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Gyda'r BA Ieithoedd Modern, gallwch chi deilwra eich taith ieithyddol gydag amrywiaeth o ieithoedd ar gynnig. Gallwch chi astudio hyd at ddwy brif iaith, i lefelau amrywiol o gymhwysedd, sy'n cynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin a Sbaeneg. Yn ogystal â'ch modiwlau yn eich prif iaith, mae ein llwybrau unigryw'n eich galluogi i ddewis modiwlau mewn astudiaethau diwylliannol, addysg a chyfieithu.

Efallai yr hoffech ehangu eich galluoedd ieithyddol drwy astudio modiwlau rhagarweiniol mewn Catalaneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin neu Bortiwgaleg (caiff Catalaneg a Phortiwgaleg eu cynnig ar sail dreigl). Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael y cyfle i ddewis modiwlau o unrhyw un o'r llwybrau hyn, gan eich galluogi i addasu eich profiad dysgu i gyd-fynd â‘ch diddordebau a'ch uchelgeisiau.

Gellir astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar y lefelau canlynol ac yn y cyfuniadau canlynol:

  • Os oes gennych Safon Uwch neu gymhwyster/profiad cyfwerth yn nwy o'r ieithoedd hyn, gallwch barhau i astudio'r ddwy iaith gyda ni ar lefel uwch.
  • Os oes gennych Safon Uwch neu gymhwyster/profiad cyfwerth yn un o'r ieithoedd hyn, gallwch naill ai ganolbwyntio'n llwyr ar yr iaith honno neu ddysgu iaith arall ar yr un pryd, trwy ein llwybrau iaith pwrpasol i ddechreuwyr.

Os nad oes gennych iaith ar Safon Uwch, ac efallai nad oes gennych iaith ar lefel TGAU, gallwch ganolbwyntio ar un iaith i ddechreuwyr (Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg) drwy gydol eich gradd. Gallwch hefyd astudio ail iaith i ddechreuwyr (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin neu Sbaeneg) yn ystod ail flwyddyn eich gradd. Bydd hyn yn eich galluogi i raddio â rhuglder uwch (C1) yn eich iaith gyntaf, a rhuglder canolradd-uwch (B2-C1) yn eich ail iaith.

Pam Ieithoedd Modern yn Abertawe?

Wedi’i leoli ar ein campws godidog ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr:

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr ymchwil sy'n arbenigo mewn ffilm, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar, astudiaethau theatr a chyfieithu.
  • Bydd gennych diwtor personol a fydd yn cynnig unrhyw gefnogaeth y gall fod ei hangen arnoch.
  • Gallwch gwrdd â myfyrwyr cyfnewid mewn caffis iaith wythnosol i sgwrsio yn yr ieithoedd yr ydych yn eu hastudio.
  • Byddwch yn gallu ymuno â'n Cymdeithasau Myfyrwyr FfrangegAlmaeneg a Sbaeneg ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol wythnosol yn cynnwys arddangosiadau ffilm, cwisiau tafarn a mwy!

Mae Ieithoedd Modern yn Abertawe wedi'u rhestru fel a ganlyn:

  • Ar y brig o ran Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 4ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU yn Gyffredinol (Guardian University Guide 2026), a
  • 100% Boddhad Cyffredinol Myfyrwyr* (NSS 2025)

*Wedi'i asesu dan ‘Ieithyddiaeth’, (Q28, NSS 2025)

Eich Profiad Ieithoedd Modern

Addysgir y prif ieithoedd ar y rhaglen hon ar bedair lefel: dechreuwyr, canolradd, canolradd uwch ac uwch. Gallwch ddewis y lefel briodol yn seiliedig ar eich cefndir presennol yn yr ieithoedd hyn, yn ogystal â'ch dewis rhaglen, ac a fyddwch yn dewis ymgymryd â blwyddyn ychwanegol dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Mae gan y modiwlau iaith hyn hefyd asesiadau gwahanol i adlewyrchu'n deg eich lefel astudio.

Gallwch lunio eich cwrs i gyd-fynd â'ch nodau a'ch diddordebau drwy ddewis o blith y canlynol:

  • Rhaglen 4 blynedd gan dreulio blwyddyn yng ngwlad neu wledydd yr iaith neu'r ieithoedd sy'n cael eu hastudio (Rhuglder disgwyliedig C1 ar Raddfa'r Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd).
  • Rhaglen 4 blynedd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu ymhellach i ffwrdd. (Rhuglder disgwyliedig B2-C1).
  • Rhaglen 3 blynedd heb Flwyddyn Dramor na Blwyddyn mewn Diwydiant sy'n cynnig llwybr mwy uniongyrchol i gyflogaeth neu astudiaethau ôl-raddedig (rhuglder disgwyliedig B2-C1).

Mae astudio dramor am flwyddyn yn eich galluogi i fireinio eich ymwybyddiaeth o iaith a diwylliannau eraill, sgiliau sy'n hanfodol i fod yn ieithydd effeithiol.

Gellir treulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi. Mae'r Brifysgol yn argymell lleoliadau cyflogedig, gyda chyflog cyfartalog o £20,000+. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Os ydych yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gallu trosglwyddo i'r rhaglen radd 3 blynedd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ieithoedd Modern

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin eich cymhwysedd ieithyddol, eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’r sgiliau i raddedigion a fydd yn eich helpu i greu'r proffil y mae ei angen i fod yn rhan o gymuned fyd-eang, gan agor drysau i amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • Addysg
  • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
  • Newyddiaduraeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Llywodraeth, gwleidyddiaeth a sefydliadau dyngarol
  • Byd busnes a masnach
  • Gwasanaethau cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ieithoedd Modern, BA (Anrh)

Ieithoedd Modern gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Ieithoedd Modern gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)