Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd BA Hanes ym Mhrifysgol Abertawe'n eich galluogi i feithrin y sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, ar draws amrywiaeth o sectorau a phroffesiynau, wrth archwilio dros 1500 o flynyddoedd o hanes, o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig tan heddiw.
Mae'r rhaglen, sy'n cynnwys modiwlau gorfodol yn ogystal â modiwlau dewisol, yn rhoi llwybr tywysedig, strwythuredig a sgematig i chi drwy hanes sy'n eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r galluoedd ar gyfer ymchwiliadau hanesyddol yr unfed ganrif ar hugain.
Drwy'r modiwlau dewisol sydd ar gael, byddwch yn cael y cyfle i arbenigo mewn cyfnodau hanes penodol , yn ogystal â'r gallu i ganolbwyntio ar themâu sy'n rhychwantu cyfnodau hanesyddol, drwy archwilio materion sy'n cynnwys Rhyw a Rhywedd, Ymerodraeth a Chenedligrwydd, Chwyldro, Meddygaeth ac Anabledd a'r Amgylchedd ar draws lleoedd ac amserau gwahanol.
Fe'i cyflwynir gan academyddion blaenllaw sy'n addysgu ar sail ymchwil, ac sy'n angerddol am rannu eu gwybodaeth â myfyrwyr a'r byd ehangach, a bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio’r ymchwil hanesyddol ddiweddaraf, wrth iddi gael ei chynnal.
Caiff pob myfyriwr ei annog i fod yn gyfrifol am ei ddysgu ei hun, i weithio'n annibynnol yn ogystal â chydag eraill, ymddwyn yn broffesiynol ac ennill a mireinio sgiliau newydd. Bydd aelodau'r maes pwnc yn cynnig cymorth ac adborth unigol ar gyfer asesiadau, gan weithio gyda chi er mwyn i chi gyflawni eich potensial a deall a bodloni heriau astudio hanes ar lefel prifysgol.