Trosolwg o'r Cwrs
Mae byd cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau yn newid yn gyflym, dan ddylanwad technolegau digidol, y cyfryngau cymdeithasol a'r galw am gyfathrebu ystyrlon. Mae ein gradd BA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau yn cyfuno damcaniaeth feirniadol â phrofiad ymarferol, gan eich galluogi i feithrin y sgiliau i ddadansoddi, creu ac arloesi ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, y cyfryngau digidol a ffilm.
Mae cysylltiadau cyhoeddus heddiw yn llawer mwy na datganiadau i'r wasg. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gysylltiadau cyhoeddus digidol, strategaeth y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus fel swyddogaeth reoli allweddol ym maes cysylltiadau corfforaethol. Byddwch yn cael profiad ymarferol o offer a phlatfformau safonol y diwydiant, o greu cynnwys a marchnata gan ddylanwadwyr i ddadansoddeg y cyfryngau cymdeithasol. Bydd prosiectau ac asesiadau ymarferol yn eich paratoi i reoli ymgyrchoedd, enw da ar-lein a chyfathrebu digidol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
Mewn oes o gyfathrebu sydyn a lefel uchel o graffu, mae sgiliau rheoli argyfwng yn hanfodol. Drwy astudiaethau achos o'r byd go iawn, ymarferion efelychu a strategol, byddwch yn dysgu sut i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i faterion wrth iddynt ddod i'r amlwg.
Mae cysylltiadau cyhoeddus yn ddisgyblaeth gydweithredol sy'n croestorri â newyddiaduraeth, marchnata a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Byddwch hefyd yn astudio'r disgyblaethau hyn er mwyn deall cyfathrebu integredig a gweithio'n hyderus mewn timau traws-swyddogaethol. Mae ymarfer moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol yn elfennau canolog o'r rhaglen a cheir pwyslais ar dryloywder, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, a mynd i'r afael â heriau megis camwybodaeth a dibynadwyedd brand.
Rydym yn cynnig opsiynau i astudio yn Gymraeg ac yn Saesneg felly gallwch ehangu eich rhagolygon gyrfa a manteisio ar gyfleoedd ledled Cymru a'r tu hwnt, gan eich galluogi i fod yn fwy hyblyg byth yn nhirwedd y cyfryngau byd-eang.