Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Sylfaen yn cyfuno damcaniaeth feirniadol â phrofiad ymarferol, gan eich galluogi i feithrin y sgiliau i ddadansoddi, creu ac arloesi ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, y cyfryngau digidol a ffilm. Mae'r flwyddyn sylfaen yn cynnig cyflwyniad cefnogol i astudio ar lefel prifysgol, gan eich helpu chi i feithrin sgiliau academaidd hanfodol cyn symud ymlaen i'r radd lawn.
Mae cysylltiadau cyhoeddus heddiw yn llawer mwy na datganiadau i'r wasg. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gysylltiadau cyhoeddus digidol, strategaeth y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus fel swyddogaeth reoli allweddol ym maes cysylltiadau corfforaethol. Byddwch yn ennill profiad ymarferol gydag offer sy'n bodloni safonau’r diwydiant, o greu cynnwys a marchnata gan ddylanwadwyr i ddadansoddeg y cyfryngau cymdeithasol. Bydd prosiectau ymarferol ac asesiadau bywyd go iawn yn eich paratoi i reoli ymgyrchoedd, enw da ar-lein a chyfathrebu digidol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
Mewn oes o gyfathrebu sydyn a lefel uchel o graffu, mae sgiliau rheoli argyfwng yn hanfodol. Drwy astudiaethau achos o'r byd go iawn ac ymarferion efelychu a strategol, byddwch yn dysgu sut i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i faterion wrth iddynt ddod i'r amlwg.
Mae cysylltiadau cyhoeddus yn ddisgyblaeth gydweithredol sy'n croestorri â newyddiaduraeth, marchnata a chynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Byddwch chi hefyd yn astudio'r meysydd hyn er mwyn deall cyfathrebu integredig a gweithio'n hyderus mewn timau traws-swyddogaethol. Mae ymarfer moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol yn elfennau canolog o'r rhaglen a cheir pwyslais ar dryloywder, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, a mynd i'r afael â heriau megis camwybodaeth a dibynadwyedd brand.
Mae opsiynau astudio dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg yn cynnig mantais unigryw, gan wella eich rhagolygon gyrfa ac agor drysau i gyfleoedd ledled Cymru a'r tu hwnt.