Trosolwg o'r Cwrs
Mae Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen yn ymchwilio sut mae iaith yn gweithio a sut mae cymdeithasau'n cyfathrebu.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad i chi i addysg uwch, gan ymchwilio'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i raglen radd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig o gefnogaeth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl cyfnod y tu allan i addysg.
Bydd astudio'r radd pedair blynedd hon yn agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Mae bron 98% o raddedigion gradd anrhydedd sengl a chydanrhydedd mewn Saesneg o Brifysgol Abertawe mewn swydd neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (97.4% - Dangosydd Perfformiad HESA o DLHE 2013/14), a bydd ein gradd Saesneg yn eich rhoi mewn safle gwych i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd.