Persbectif Ymchwiliwr

Prifysgol Caerdydd

Archwiliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd farn rhanddeiliaid am yr heriau moesegol ac ymarferol sy'n gysylltiedig â recriwtio preswylwyr cartrefi gofal i astudiaethau ymchwil. Manylir ar wersi ac ystyriaethau pwysig i'w hystyried o'r astudiaeth hon, gan ddefnyddio cyfweliadau â phreswylwyr cartrefi gofal, eu perthnasau, a meddygon teulu, a grwpiau ffocws gyda staff cartrefi gofal. Roedd y cyfweliadau'n canolbwyntio ar faterion oedolion hŷn yn cydsynio i ymchwil mewn cartrefi gofal, gan gynnwys cydsyniad uwch, yn gyffredinol a thrwy gyfeirio at astudiaeth benodol ar ddefnyddio probiotigau i atal Dolur Rhydd sy'n Gysylltiedig â Gwrthfiotigau. Dadansoddwyd data gan ddefnyddio dull thematig yn ymgorffori themâu a nodwyd ymlaen llaw, a themâu sy'n deillio o'r data. Trafododd yr ymchwilwyr dystiolaeth ar gyfer themâu, a daethant i gonsensws ar y themâu terfynol.Darllen y papur ymchwil llawn.

Prifysgol Abertawe

Gwnaeth Caitlin Reid, BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Reading ac MSc mewn Seiciatreg o Brifysgol Caerdydd, ddechrau ar PhD yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol ym mis Gorffennaf 2016. Ariennir yr ymchwil ‘Understanding and Improving the Mental Well-being of Older Adults in Residential Care’ gan yr Ymddiriedolaeth Rheoli Gofal Iechyd ac fe'i goruchwylir gan Dr Charles Musselwhite a Dr Michael Coffey. Darllenwch am brofiad Caitlin o gynnal gwaith ymchwil mewn Cartrefi Gofal a rhai gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd. 

Prifysgol Bangor

Mae gan Dr Carys Jones PhD mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Bangor. Ar ôl cwblhau ei PhD ar fesur ansawdd bywyd ar gyfer gofalwyr teuluol pobl â dementia, mae Carys wedi aros yn y Ganolfan Gwerthuso Economeg Iechyd a Meddyginiaethau (CHEME) ac mae wedi gweithio ar sawl prosiect sy'n cyd-fynd â'i diddordebau ymchwil sylfaenol o ddementia a heneiddio. Darllenwch am brofiad Carys o gynllunio ymchwil mewn Cartrefi Gofal a rhai gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd.