Cefnogaeth i gynnal ymchwil mewn cartrefi gofal

Mae cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal yn broses hollbwysig mewn ymchwil i heneiddio, oherwydd bod perygl i'r boblogaeth hon gael ei heithrio o gyfleoedd i gyfrannu.

Disgwylir i'r boblogaeth sy'n heneiddio gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, felly mae cartrefi gofal yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi a gofalu am bobl hŷn, ac maent yn bartner hanfodol wrth gyflawni ymchwil ond serch hynny, yn aml, caiff cartrefi gofal eu heithrio o'r broses.

Bydd ENRICH Cymru yn trefnu cysylltu staff a phreswylwyr cartrefi gofal ac ymchwilwyr i hwyluso'r broses o gyflawni ymchwil er mwyn gwella bywydau staff a phreswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru.

Nod ENRICH Cymru yw gwella bywydau preswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru drwy ddatblygu a hwyluso rhwydwaith o gartrefi gofal sy'n 'barod' ar gyfer ymchwil'. Y nod yw hyrwyddo proses o gyfnewid syniadau a gwybodaeth ymchwil gan annog ymchwil ar cyd sy'n berthnasol i faterion cyfredol yn y sector cartrefi gofal. Gwahoddir cartrefi gofal ac ymchwilwyr ledled Cymru i ymuno â'r rhwydwaith er mwyn creu mwy o gyfleoedd i ymgymryd â phrosiectau ymchwil newydd ac arloesol.

Bydd y rhwydwaith yn gallu darparu:

  • Cyngor a chymorth i oresgyn yr heriau sydd ynghlwm wrth ymgymryd ag ymchwil mewn cartrefi gofal
  • Cymorth i nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo gydag astudiaethau
  • Diweddariadau rheolaidd am y datblygiadau diweddaraf o ran ymchwil a datblygu mewn cartrefi gofal

Nod ENRICH Cymru yw cynyddu'r ymchwil a wneir mewn cartrefi gofal a gwella mynediad i ymchwil ar gyfer preswylwyr a staff

Pam gweithio gyda chartrefi gofal?

Mae pum rheswm allweddol pam mae cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal yn hanfodol:

  • Mae'n gwella ansawdd bywyd

Mae pobl mewn cartrefi gofal a'u teuluoedd yn awyddus i gyfrannu at ymchwil i wella ansawdd bywyd ac ansawdd gofal. Gall cydweithio â chartrefi gofal ddarparu cyfleoedd i weithio gyda phreswylwyr sydd wedi cyrraedd cam penodol eu salwch. 

  • Yr amgylchedd a'r boblogaeth mewn cartrefi gofal

Mae llawer o bobl ag anhwylderau niwroddirywiol a phroblemau iechyd yn byw mewn cartrefi gofal. Gall fod yn hawdd gael mynediad i'r gymuned hon a gallant fod yn gefnogol i'r ymchwil.

  • Gwella mynediad i ymchwil

Mae preswylwyr cartrefi gofal wedi'u tangynrychioli mewn ymchwil clinigol, a gall ehangu mynediad i'r astudiaethau hyn wella recriwtio.

  • Mae'n darparu tystiolaeth ac yn llywio arfer gorau

Oherwydd bod preswylwyr wedi'u tangynrychioli mewn ymchwil, mewn rhai meysydd, mae'r dystiolaeth i ategu arfer gorau yn wan. Mae'r prinder hwn o ran tystiolaeth yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ymchwil newydd.

  • Mae'n codi'r safonau

Mae tystiolaeth ymchwil yn allweddol wrth helpu i godi safonau gofal mewn cartrefi gofal. Er enghraifft, darparodd un astudiaeth hyfforddiant a chymorth i staff mewn cartref gofal. O ganlyniad llwyddwyd i leihau defnydd o gyffuriau niwroleptig gyda phreswylwyr â dementia o 50% heb unrhyw ddirywiad mewn symptomau ymddygiadol.

Ewch i http://enrich.nihr.ac.uk/pages/research-community am adnoddau defnyddiol wrth gynllunio a chynnal ymchwil mewn cartrefi gofal.