Y Her

Mae bodau dynol yn dangos niwroamrywiaeth fel rhywogaeth, sy'n golygu bod gan bob un ohonom fath gwahanol o wybyddiaeth a gweithrediad yr ymennydd. O ganlyniad, rydym yn meddwl, yn siarad, yn teimlo, yn ymddwyn ac yn profi bywyd mewn ffyrdd gwahanol. Mae tua 15% o'r bobl sy'n byw yn y DU yn niwrowahanol, sy'n golygu eu bod wedi cael diagnosis o un neu fwy o'r cyflyrau datblygiadol sy'n cael eu cydnabod fel niwrowahaniaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD),  dyslecsia, dyscalcwlia, dyspracsia a syndrom Tourette. Mae'n debygol bod llawer mwy o bobl yn byw gyda chyflwr niwrowahanol mewn gwirionedd oherwydd bod nifer anhysbys o bobl sydd heb gael diagnosis. Yn wir, er mai yn ystod plentyndod roedd pobl yn tueddu i gael diagnosis o gyflwr niwrowahanol yn y gorffennol, y dyddiau hyn, mae llawer o bobl yn canfod eu bod yn niwrowahanol yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Ystyrir niwroamrywiaeth fel mater cyfiawnder cymdeithasol a hawliau sifil oherwydd bod pobl niwrowahanol yn aml yn cael eu hymyleiddio gan y gymdeithas. Mae'r byd yn tueddu i fod wedi ei ddylunio gan bobl niwronodweddiadol (sef pobl nad oes ganddynt gyflwr niwrowahanol), ar gyfer pobl niwronodweddiadol.

Mae hyn yn arbennig o wir yn y byd gwaith, lle mae unigolion niwrowahanol yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol iddynt gyflawni eu potensial personol a chwarae rôl lawn yn y gymdeithas. Mae'r rhan fwyaf o bobl niwrowahanol yn dod o hyd i rwystrau o'r fath yn eu bywydau bob dydd ac mae'n rhaid iddynt ymdrechu i'w goresgyn. Gall hyn gael effeithiau negyddol a difrifol ar eu lles a'u hansawdd bywyd.

Y Dull

Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol John Moores Lerpwl wedi bod yn cynnal astudiaethau gyda myfyrwyr niwrowahanol, gweithwyr lles a chymorth anabledd proffesiynol mewn prifysgolion, gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol mewn prifysgolion a chyflogwyr i ennill dealltwriaeth well o'r heriau y mae graddedigion niwrowahanol yn benodol yn eu hwynebu pan fyddant yn chwilio am swyddi, yn dod o hyd i swyddi, yn gweithio mewn swydd ac yn aros mewn swydd. Rydym wedi cael ein cefnogi gan grantiau gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe a Chronfa'r Angen Mwyaf Prifysgol Abertawe 

Yr Effaith

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn helpu i bontio'r bwlch y mae myfyrwyr niwrowahanol yn dweud eu bod nhw'n ei brofi wrth iddynt geisio cynllunio eu gyrfaoedd, cyflwyno ceisiadau am swyddi a sicrhau gwaith â thâl sy'n defnyddio eu gradd ac yn harneisio eu potensial i'r eithaf. Yn seiliedig ar yr ymchwil hon, rydym wedi llunio'r canllaw a'r cyfeirlyfr adnoddau canlynol i weithwyr gyrfaoedd proffesiynol. Wedi'n hysbrydoli gan y slogan niwroamrywiaeth poblogaidd "dim byd amdanom ni hebddom ni", rydym wedi seilio'r canllaw hwn yn uniongyrchol ar brofiadau a barn myfyrwyr prifysgol sydd â chyflyrau niwroamrywiol.

Cyfeirlyfr adnoddau canlynol i weithwyr gyrfaoedd proffesiynol: Neurodiversity - A Guide and Resource Directory for University Careers Advisers

Mae croeso i chi lawrlwytho'r cyfeirlyfr hwn am ddim. Mae ef wedi'i lunio'n bennaf i weithwyr gyrfaoedd proffesiynol ym myd addysg uwch, ond bydd hefyd yn ddefnyddiol i ddarlithwyr, tiwtoriaid personol a staff gwasanaethau proffesiynol. Bydd yn ddiddorol hefyd i bobl sy'n gweithio gyda myfyrwyr niwrowahanol ym myd Addysg Bellach.

Mae'r cyfeirlyfr yn cynnwys gwybodaeth am niwrowahaniaeth a chyflyrau niwrowahanol, yn enwedig fel y maent yn berthnasol i fyfyrwyr graddedig sy'n cael mynediad at y byd gwaith. Hefyd, mae offer i helpu gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol i weithio'n fwy cynhyrchiol gyda'u cleientiaid sy'n fyfyrwyr niwrowahanol. Ar y diwedd, ceir cysylltiadau at amrywiaeth o adnoddau pellach a fydd yn ddefnyddiol i ddarllenwyr.

Y Partner Ymchwil

Liverpool John Moores University

Liverpool John Moores Logo