Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cystadleuaeth canmlwyddiant y Brifysgol yn gwahodd disgyblion i edrych tua'r dyfodol

Mae Prifysgol Abertawe'n nodi ei chanmlwyddiant drwy ofyn i blant rannu eu gweledigaeth ynghylch pa olwg fydd arni ymhen 100 mlynedd arall. 

Mae wedi lansio cystadleuaeth newydd sy'n gwahodd disgyblion o ardal Abertawe i ddatgelu eu syniadau ynghylch Prifysgol y Dyfodol.

A fyddai'r un olwg arni? Pa greadigaethau y byddai'r gwyddonwyr yn gweithio arnynt a pha ddarlithoedd y byddai robotiaid yn eu haddysgu?

“Rydym yn credu bod y posibiliadau'n ddiddiwedd,” meddai Alison Parker, pennaeth marchnata Prifysgol Abertawe, sydd wedi helpu i drefnu'r gystadleuaeth.

“Mae cymaint wedi digwydd i ddatblygu bywyd y Brifysgol ers i'r myfyrwyr cyntaf gyrraedd y Brifysgol ym 1920 a hoffem glywed eich syniadau ynghylch yr hyn a allai ddod nesaf. Bydd eich syniadau a'ch barn yn bwysig iawn wrth ein helpu i ddychmygu'r hyn y bydd ein myfyrwyr yn ei wneud yn y dyfodol.”

Lluniwyd y gystadleuaeth er mwyn apelio at blant o bob oedran ac mae gwobrau cyffrous ar gael.

Gwahoddir disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 1 (Blynyddoedd 1 a 2) i ddefnyddio penseli lliwio, paent, sialc a phapur i dynnu llun o'r Brifysgol ymhen 100 mlynedd. Gall gynnwys unrhyw beth – o ystafelloedd dosbarth i athrawon, neu ddulliau teithio myfyrwyr hyd yn oed.

Mae angen i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) greu stori fer neu gerdd sy'n disgrifio eu syniad ar gyfer Prifysgol y Dyfodol, mewn hyd at 100 o eiriau.

Daw llun buddugol adran Cyfnod Allweddol 1 yn fyw mewn ffilm animeiddiedig fer a fydd yn cynnwys stori fuddugol cystadleuaeth Cyfnod Allweddol 2. Bydd gwestai arbennig adnabyddus yn sylwebu yn ystod y ffilm hon, a fydd ar gael ar wefan y Brifysgol fel rhan o ddathliadau ei Chanmlwyddiant.

Yr her i ddisgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 (Blynyddoedd 7, 8, 9, 10 ac 11) fydd meddwl sut gallent ddod â'r dyfodol yn fyw. Mae'r trefnwyr am weld fideos sy'n dangos syniadau'r bobl ifanc ynghylch yr hyn y bydd ein myfyrwyr yn ymchwilio iddo yn 2120. Gallent hefyd anfon animeiddiad neu fodel ar eu cyfrifiadur, gan adrodd eu geiriau eu hunain.

Bydd ein gwestai arbennig yn cyflwyno fideo'r enillydd, a fydd yn rhan o'r dathliadau parhaus. Caiff y fideos gorau eu hychwanegu at ein gwefan i bawb gael cyfle i'w gwylio.

Ceir mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, yn ogystal â syniadau i'ch sbarduno.

Rhaid i bob cynnig ddod i law erbyn 4 Medi 2020. 

E-bostiwch unrhyw gwestiynau 

Rhannu'r stori