Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg a Gwyddorau Trallwysiad Gwaed), MSc

Blood donation bags

Trosolwg o'r Cwrs

Gwyddor Fiofeddygol yw'r astudiaeth wyddonol integreiddiol o faterion biolegol sy'n gysylltiedig â diagnosis a thrin amrywiol gyflyrau sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl, gan gwmpasu dull cyfannol a hyd oes o ddarparu asesiadau diagnostig ac ymyrraeth.

Bydd y rhaglen hon yn archwilio agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar wyddorau haematoleg a thrallwyso gwaed, gan ddefnyddio ymagwedd dysgu cyfunol sy'n defnyddio cymysgedd o addysgu ar y campws a dulliau dysgu ar-lein. Bydd yr ymagwedd arloesol hon yn cefnogi datblygiad eich profiad dysgu ymhellach ynghyd â chyflwyno sgiliau labordy ymarferol allweddol a datblygu eich ymarfer proffesiynol. 

Wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion gwyddor feddygol neu raddau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n dymuno arbenigo, yn ogystal â Gwyddonwyr Biofeddygol sydd am ddatblygu eu hopsiynau gyrfa, bydd ein cwrs MSc Gwyddor Fiofeddygol (Gwyddorau Haematoleg a Thrallwysiad Gwaed)  yn datblygu eich gwybodaeth am gasglu a dadansoddi samplau ar gyfer anhwylderau haematolegol cyffredin a chymhleth, a sut caiff eu dehongliad clinigol ei ddefnyddio i gyfeirio rheoli a thrin cleifion.

Byddwch hefyd yn archwilio ystod gynhwysfawr o ddulliau dadansoddol a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn gwyddorau trallwyso gwaed ac yn archwilio pwysigrwydd rheoli ansawdd a rheoleiddio ym maes y gwyddorau trallwyso gwaed.

Mae Gwyddor Fiofeddygol (Gwyddorau Haematoleg a Thrallwysiad Gwaed)  yn rhoi pwyslais cryf ar gymhwyso ymarferol ac astudiaethau achos yn y byd go iawn, ac mae’r rhaglen wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau a'r hyder i chi ragori ym maes gwyddorau biofeddygol, gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys datrys problemau yn greadigol, gwerthuso, dysgu a gweithio'n annibynnol, cynllunio a threfnu, sgiliau ymchwil a sgiliau labordy ymarferol.

Pam Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg a Gwyddorau Trallwysiad Gwaed) yn Abertawe?

Byddwch yn elwa o fynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf yn adeilad y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gwerth £100 miliwn, gan gynnwys ein Hystafell Delweddu Clinigol, gyda delweddu MRI 3T a CT eglur iawn sydd ynghlwm.

Addysgir ein rhaglen mewn partneriaeth â Gwyddonwyr Biofeddygol y GIG, gan ddod â phrofiad perthnasol i'ch astudiaethau a pherthynas waith agos rhwng Prifysgol Abertawe a'r GIG yng Nghymru, gan gynnig amgylchiadau delfrydol ar gyfer addysgu ac ymchwil ar y cyd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â Chyngor Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru a nifer o gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Eich Profiad Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg a Gwyddorau Trallwysiad Gwaed)

Mae ein rhaglen yn cynnwys sawl maes pwnc a fydd yn eich galluogi i ddatblygu a gwella eich gwybodaeth arbenigol am haematoleg a gwyddorau trallwyso gwaed. Byddwch yn meithrin gwybodaeth gynhwysfawr am gasglu, prosesu a dadansoddi samplau ar gyfer anhwylderau haematolegol cyffredin a chymhleth, a sut mae'r dehongliad clinigol yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio rheoli a thrin cleifion. Drwy ymagwedd astudiaethau achos, byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso ac integreiddio gwybodaeth o safbwynt rheoli cleifion. Bydd amrywiaeth o ddulliau dadansoddol a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn gwyddorau trallwyso gwaed hefyd yn cael eu harchwilio a bydd pwysigrwydd rheoli ansawdd a rheoleiddio yn y gwyddorau trallwyso gwaed yn cael ei ystyried.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae’r  cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi profiad academaidd heriol ond cyfoethog i chi, â’r nod o ddatblygu gyrfa yn y Gwyddorau Biofeddygol a’r Gwyddorau Bywyd, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi i raddedigion y priodoleddau a'r galluoedd i ymgymryd ag astudiaethau parhaus, cyflogaeth sy'n galw am sgiliau uchel neu i gael mynediad at y proffesiynau. Bydd hyn yn cynnwys gofal iechyd, gwyddor fiofeddygol a'r gwyddorau bywyd yng Nghymru a'r tu hwnt.

Drwy feithrin sgiliau gwyddor fiofeddygol a phriodoleddau ymarfer proffesiynol trosglwyddadwy, bydd y cwrs yn cynnig sylfeini cryf a allai wella rhagolygon cyflogaeth a'ch paratoi ar gyfer dysgu gydol oes trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Efallai y bydd graddedigion am gyflwyno cais am Statws Gwyddonydd Cofrestredig neu Siartredig (gan ddibynnu ar brofiad proffesiynol) gyda'r Cyngor Gwyddoniaeth a bydd y cwrs yn cefnogi graddedigion i gyflwyno ceisiadau unigol i ddod yn aelodau (gan ddibynnu ar brofiad proffesiynol) o Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol fel rhan o'r broses sydd ei hangen i wneud cais am swyddi Gwyddonydd Biofeddygol dan Hyfforddiant yn y GIG. Fel hyn byddant yn gallu cwblhau eu hyfforddiant ymarferol fel rhan o Bortffolio Cofrestru’r IBMS, gan arwain at gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Sylwer nad yw'r cwrs hwn wedi'i achredu gan yr IBMS ar hyn o bryd.