Canllaw i Fynediad ar gyfer Cleifion Preifat

Y Gwasanaethau Sganio a Ddarperir:

  • Niwrolegol: yr ymennydd, yr asgwrn cefn
  • Cyhyrysgerbydol
  • Fasgwlaidd
  • Y corff: y gwddf, y frest, yr abdomen a'r pelfis
  • Cardiaidd
  • Gynaecolegol

Trefnu apwyntiad - i drefnu apwyntiad cysylltwch â'r Cyfleuster Delweddu Clinigol drwy ffonio 01792 606420 neu e-bostiwch eich atgyfeiriad. Rydym yn gofyn am atgyfeiriad gan ymarferydd meddygol proffesiynol ar gyfer pob apwyntiad sganio.

Mae arnom angen atgyfeiriad gan weithiwr meddygol proffesiynol cofrestredig ar gyfer pob sgan. Heb ffurflen atgyfeirio, ni fyddwn yn gallu hwyluso eich sgan. Mae ffurflenni atgyfeirio MRI a CT i’w gweld isod:

MRI: MRI CIF Request Form

CT: CIF CT Request Form

Gallwch weld y Ffurflen Ddiogelwch MRI yma: MRI Safety Form

Gallwch ddychwelyd eich ffurflen atgyfeirio at y Tîm Cyfleuster Delweddu Clinigol drwy e-bost.