Yr hyn rydym yn ei gynnig
Yma yn y Gyfadran Meddygaeth, Iehyd a Gwyddor Bywyd rydym yn addysgu ac yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr bywyd, a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Ein Cenhadaeth yw gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru a’r byd.
P’un ai ydych eisoes wedi penderfynu beth rydych am ei astudio neu’n dal i ymchwilio i’ch opsiynau, edrychwch drwy ein canllawiau cwrs, gwyliwch ein fideos a darllenwch straeon ein myfyrwyr i gael blas ar sut beth yw astudio yma.
Angen cymhorthion astudio, cyngor gyrfaoedd neu eisiau i ni ymweld â'ch ysgol? Ebostiwch ni.
Ymgyrraedd yn ehangach
Rydym yn teimlo’n gryf am wneud gyrfaoedd ym maes meddygaeth, gwyddoniaeth a gofal iechyd yn hygyrch i bobl ifanc o bob cefndir. Ein nod yw ehangu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc o ystod eang o gefndiroedd er mwyn iddynt elwa ar addysg uwch trwy weithgareddau wedi’u llunio a’u cydlynu’n dda sy’n cynyddu ac yn cefnogi dilyniant i addysg uwch. Hefyd rydym yn gweithio’n agos gyda Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru er mwyn darparu cyfleoedd sy’n codi uchelgeisiau disgyblion ysgolion yn ardaloedd difreintiedig y rhanbarth.
Cysylltwch â ni
Archwilio Problemau Byd-Eang
Rydym yn darlledu cyfres o bodlediadau a elwir yn Archwilio Problemau Byd-eang, lle mae academyddion o bob rhan o'r Brifysgol yn trafod sut bydd eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang.
Ymysg y pynciau cyntaf mae Arloesedd ym maes Iechyd, y Newid yn yr Hinsawdd, Ynni Gwyrdd a Thechnolegau digidol sy'n canolbwyntio ar bobl. Daeth ein cyfraniad i hyn oddi wrth Dr Amira Guirguis, sydd wedi ymchwilio i'r heriau sy'n deillio o Sylweddau Seicoweithredol Newydd a sut y gallwn eu canfod. Mae'r ail bennod yn edrych ar waith yr Athro Paul Dyson, a fu'n siarad am ei waith yn addasu genynnau bacteria er mwyn gwella canser o bosibl.
Ewch i dudalen ein podlediad a thanysgrifiwch i'r gyfres. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau!