Llety Tŷ Beck

Delwedd hir o Lety Ty Beck

Byw yn Nhŷ Beck

Mae Tŷ Beck yn cynnwys 6 thŷ tref o oes Fictoria, ynghyd â chymysgedd o lety sengl a llety a rennir. Mae'n safle bach a chyfeillgar sy'n opsiwn poblogaidd a fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr ôl-raddedig, teuluoedd, parau a myfyrwyr rhyngwladol.

Lleolir Tŷ Beck yn ardal yr Uplands yn Abertawe, 1.5 milltir o Gampws Parc Singleton. Mae'r Uplands yn cynnig siopau, barau, caffis, banciau a thai bwyta, oll o fewn pellter cerdded.

Llety hunanarlwyo yw'r holl lety, ac mae gan bob breswylfa gyfleusterau golchi dillad.

Mae maes parcio am ddim i breswylwyr Tŷ Beck, ac mae gwasanaeth bysus gerllaw gyda bysus rheolaidd i'r ddau gampws a chanol y ddinas.

Edrychwch ar yr opsiynau llety sydd ar gael yn Nhŷ Beck. Mae'r holl ffioedd a nodir yn brisiau cychwynnol, yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2021-22. Gallwch ddarllen ein tudalen ffioedd i gael rhagor o wybodaeth am y prisiau a'r wybodaeth o ran talu.

Ystafell Safonol

  • Hunanarlwyo gyda chegin a rennir
  • 29 ystafell safonol sengl
  • Cyfleusterau ystafell ymolchi a rennir
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd, droriau a sinc ymolchi yn eich ystafell

O £130 y person, yr wythnos

Ystafell En-suite

  • Hunanarlwyo gyda chegin a rennir
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd a droriau yn eich ystafell

O £150 y person, yr wythnos

Fflatiau 1, 2 a 3 gwely

  • Hunanarlwyo gyda chegin, ystafell ymolchi ac ystafell fyw
  • 5 fflat un ystafell wely i bobl sengl neu gyplau
  • 24 fflat dwy ystafell wely i deuluoedd neu gyplau
  • 5 fflat tair ystafell wely i deuluoedd
  • Desg, cadair, cwpwrdd dillad, silffoedd, a droriau yn yr ystafelloedd gwely
  • Dodrefn mewn ystafelloedd byw

O £214 y person, yr wythnos

Rhagor o wybodaeth am lety Tŷ Beck