Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein gradd BSc (Anrh) Cyllid yn eich arfogi â theori ac ymarfer sylfaenol cyllid modern, gyda phwyslais ar bwysigrwydd cynyddol cynaliadwyedd, technoleg ariannol a gwneud penderfyniadau moesegol yn economi fyd-eang heddiw.
Drwy gyfuniad o waith tîm, cyfathrebu ac ymwybyddiaeth fasnachol, byddwch yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes cyllid, gan ddangos barn foesegol, meddwl strategol a datrys problemau creadigol.
Gan fynd i'r afael â heriau byd-eang drwy ein haddysgu, byddwch yn archwilio'r cyd-destun cymdeithasol, moesegol a byd-eang y mae cyllid yn gweithredu ynddo, gyda ffocws cryf ar gyllid cynaliadwy a buddsoddi cyfrifol, ochr yn ochr ag integreiddio cyllid ym myd busnes ehangach.
Drwy brofiad ymarferol gyda phlatfformau data ariannol, byddwch yn dod i gysylltiad â briffiau ac efelychiadau ariannol byw. Byddwch yn defnyddio offer proffesiynol yn ein Labordy Cyllid sydd o'r radd flaenaf gan feithrin y sgiliau, y profiad a'r hyder i ddechrau gyrfa gyffrous ym maes cyllid.
Mae ein hopsiynau cwrs Blwyddyn mewn Diwydiant, Blwyddyn Dramor a Blwyddyn Sylfaen yn rhoi cyfle i chi deilwra'ch profiad astudio i'ch anghenion a'ch uchelgeisiau gyrfa.