Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Biomedical engineering

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Peirianneg Fiomeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol, er mwyn gweithio tuag at fath soffistigedig a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol.

Mae'n cyfuno peirianneg â'r offerynnau a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern, gyda'r nod o greu technolegau newydd pwysig a fydd yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom ac yn ymestyn ein hoes. Gallwch fod wrth wraidd y cyfan.

Mae ein cwrs gradd tair blynedd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau. Byddwch yn meithrin sgiliau craidd peirianneg gan ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr ar yr un pryd.

Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant.

Pam Peirianneg Biofeddygol yn Abertawe?

Mae gan bwnc Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

  • Yn y 3 Uchaf yn y DU am Ansawdd Ymchwil – Technoleg Feddygol a Biobeirianneg (The Complete University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)
  • 9fed Yn U Du Peirianneg Fiofeddygol (Daily Mail University Guide 2026)

Eich Profiad Peirianneg Biofeddygol

Mae tair prif thema i'n graddau mewn Peirianneg Fiomeddygol: 

  1. Biomecaneg a deunyddiau – datblygu a dadansoddi deunyddiau er mwyn iddynt fod yn gryf ac yn fiogydnaws
  2. Offeryniaeth – meintoli technegau diagnostig a therapiwtig uwch
  3. Biobrosesau – manylu ar brosesau ffisegol, cemegol a biolegol pwysig yn y corff dynol

Mae llwybr gradd sydd wedi'i strwythuro'n hyblyg yn rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn.

Ymhlith y cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gennym mae offerynnau peirianneg drydanol i adeiladu a phrofi dyfeisiau meddygol ac unedau modelu biomecanyddol i wneud y gorau o dechnolegau mewnblannu.

Byddwch yn astudio mewn cymuned ymchwil ffyniannus. Mae hyn yn cynnwys y Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol (BEST), sy'n fan gwych lle gall ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol ddatblygu syniadau, o’r cysyniad i weithgynhyrchu, offeru a phrofi. 

Mae hefyd yn cynnwys y Ganolfan Peirianneg Systemau a Phrosesau (SPEC), lle y gwneir ymchwil i amrywiaeth o systemau biolegol a chemegol cymhleth.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS HB19) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS HB01) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd BEng Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Biofeddygol

Mae graddedigion Peirianneg Fiomeddygol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol
  • Gwyddonydd Ymchwil Feddygol
  • Peiriannydd Adsefydlu
  • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau
  • Peiriannydd Bioddeunyddiau
  • Peiriannydd Cymhwyso mewn Dyfeisiau Meddygol
  • Peiriannydd Bio-offeryniaeth
  • Offerynnau Llawfeddygol Robotig

Mae'r radd hon yn gam cyntaf ar y llwybr tuag at statws Peiriannydd Siartredig, sy'n uchel ei barch.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Bioeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)