Peirianneg Fiomeddygol Cyrsiau Israddedig

Cyfuno sgiliau dylunio a datrys problemau peirianneg gyda'r gwyddorau meddygol

llun agos o lawdriniaeth

Peirianneg Fiofeddygol

Mae Peirianneg Fiofeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg i'r corff dynol a'r offerynnau a ddefnyddiwr mewn meddygaeth fodern.

Byddwch yn astudio mewn cymuned ymchwil ffyniannus ym Mhrifysgol Abertawe gan fod ein graddau yn tynnu ar ymchwil feddygol gyffrous a gynhelir yn y Ganolfan NanoIechyd gwerth £22 miliwn, sef cyfleuster unigryw sy'n cysylltu peirianneg a meddygaeth.

Mae ein graddedigion Peirianneg Fiofeddygol yn datblygu sgiliau peirianneg ochr yn ochr â phrofiad a gwybodaeth hanfodol am anatomeg a ffisioleg, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu â chlinigwyr. Mae graddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd diddorol mewn cwmnïoedd megis Renishaw, Calon Cardio-Technology Ltd, Olympus Surgical Technologies, y GIG, GE Healthcare a'r Llynges Frenhinol.

Mae Peirianneg Feddygol wedi gael ei achredu gan…

Logo'r Institution of Mechanical Engineers
IPEM Logo