Peirianneg Defnyddiau Cyrsiau Israddedig

Deall sut mae pethau'n cael eu rhoi at ei gilydd, eu defnyddio ac yna'u gwella

myfyrwyr mewn labordy meteleg

Graddau a hyfforddiant peirianneg deunyddiau

Gallwch astudio am BEng 3 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant neu flwyddyn dramor, neu heb y rhain. Does dim angen i chi benderfynu tan flwyddyn 2 a gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i leoliadau gwaith dros yr haf gyda phartneriaid diwydiannol.

Mae'r modiwlau’n cwmpasu prif feysydd deunyddiau peirianneg a chewch gyfle i roi ar waith yr wybodaeth byddwch yn ei dysgu mewn darlithoedd trwy ddosbarthiadau labordy ymarferol ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Yn y flwyddyn gyntaf, gall myfyrwyr astudio modiwlau mathemateg neu gemeg dewisol i wneud iawn am unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth a dod â phawb i’r un lefel.

Dewis Modiwlau

Polymerau

Trefn ac Anhrefn mewn Deunyddiau

Deunyddiau Ceramig

Deunyddiau Electronig

Dadansoddi Peirianyddol

Esblygiad microstrwythurol a rheoli deunyddiau metelig

Technoleg Gweithgynhyrchu

Lludded a Thorri

Peirianneg i Bobl

Deunyddiau ar gyfer Ynni

Deunyddiau Cyfrifiadol

Cyfansoddion

Gyriad

Llawer o ddosbarthiadau labordy i roi’r rhain i gyd ar waith

Fel arfer, byddwch yn treulio tua 18 awr yr wythnos mewn darlithoedd. Byddwch yn cael mentor academaidd a fydd yn eich tywys drwy eich astudiaethau ac yn rhoi cymorth cyffredinol tra byddwch gyda ni.

Gan nad yw'n faes cyfarwydd iawn, caiff gwyddor deunyddiau ei dysgu mewn dosbarthiadau o lai na 40 o fyfyrwyr, sy'n golygu cymuned agos a chefnogol lle byddwch yn dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a’r academyddion. Mae hyn wedi ein helpu i gyrraedd rhif 1 yn yr arolwg cenedlaethol o fyfyrwyr (NSS) ac i gyflawni cyfraddau cyflogaeth gwych o dros 95%.

Materials Technology Ranking from The Complete University Guide

Ysgoloriaethau Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau

Mae'r adran Peirianneg Ddeunyddiau yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau trwy gydol eu rhaglenni gradd. Mae'r rhain yn cynnwys ysgoloriaethau mynediad hyd at £1500 ar gyfer myfyrwyr â graddau Safon Uwch uchel (neu gyfwerth), ysgoloriaethau teithio o £1000 i'r rhai ar y cynlluniau blwyddyn dramor a rhoddir ysgoloriaethau perfformiad uchel i fyfyrwyr ar ddiwedd pob blwyddyn.

I gael rhagor o fanylion am y cyfleoedd ysgoloriaeth hyn anfonwch e-bost at engineering@abertawe.ac.uk.

Sut i wneud cais

Nid oes angen gwneud cais, caiff y bwrsariaethau eu dyfarnu yn awtomatig gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r Tiwtor Derbyn ar ôl cofrestru. Bydd myfyrwyr yn derbyn hysbysiad ffurfiol o'u dyfarniad ysgoloriaeth cyn dechrau'r tymor.

Mae Gwyddor Ddeunyddiau a Pheirianneg wedi cael ei achredu gan…

The Institute of Materials, Minerals and Mining logo