Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Biomedical engineering

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Peirianneg Fiofeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg i'r corff dynol, i fynd ar drywydd arddull uwch a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol. Mae cyfuno peirianneg â'r offeryniaeth a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern yn addo creu technolegau newydd pwysig sy'n cyffwrdd ac yn ymestyn ein bywydau i gyd.

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol ar draws ystod o sectorau, gan weithio i ddylunio ac arloesi technolegau meddygol y dyfodol. Byddwch yn meithrin sgiliau peirianneg craidd wrth ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr. Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich galluoedd datblygol i ddadansoddi a datrys problemau yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddyfeisiau ac offerynnau meddygol diwydiannol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i gyflogaeth yn y diwydiant ehangach.

Mae'r rhaglen yn cael ei hastudio fel gradd Baglor mewn Peirianneg (BEng) am 3 blynedd, neu radd Meistr Integredig mewn Peirianneg (MEng) am 4 blynedd sy'n bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig. Mae ein cyrsiau BEng ac MEng yn cynnwys opsiynau i astudio gyda Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Sylfaen.

Eich Profiad Peirianneg Biofeddygol

Mae ein graddau Peirianneg Fiofeddygol yn cwmpasu tair prif thema; bydd Biomecaneg a Deunyddiau yn archwilio datblygu a dadansoddi deunyddiau ar gyfer cryfder a biogydwyddoldeb; bydd Offeryniaeth yn cwmpasu meintioli technegau diagnostig a therapiwtig uwch; a bydd Biobroses yn manylu ar y broses ffisegol, gemegol a biolegol bwysig yn y corff dynol.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn elwa o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys offerynnau peirianneg drydanol i adeiladu a phrofi dyfeisiau meddygol, ac unedau modelu biomecanyddol i wneud y gorau o dechnolegau mewnblannu.

Byddwch yn astudio ochr yn ochr â'n cymuned ymchwil ffyniannus, fel Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol (BEST), gofod gwych i ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol feithrin syniadau o'r cysyniad hyd at weithgynhyrchu, offeryniaeth a phrofi.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd eich arbenigedd peirianneg, eich gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg, a'ch profiad mewn cyfathrebu clinigol yn rhoi'r hyder i chi ddechrau yn y gweithle. Mae galw mawr am ein graddedigion ym maes datblygu dyfeisiau meddygol, arloesi gofal iechyd a sefydliadau ymchwil. Mae rolau i raddedigion yn cynnwys:

  • Peiriannydd Bioddeunyddiau
  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol
  • Gwyddonydd Ymchwil Feddygol
  • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau
  • Peiriannydd Adsefydlu

Efallai yr hoffech hefyd symud ymlaen i astudiaethau uwch ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth.

Mae'r sgiliau sy'n cael eu meithrin drwy gydol y rhaglen, sy'n cynnwys dylunio technegol, datrys problemau, a chydweithredu rhyngddisgyblaethol, yn sicrhau bod graddedigion Peirianneg Fiofeddygol o Brifysgol Abertawe yn barod i gael effaith ystyrlon wrth wella gofal cleifion a hyrwyddo technoleg feddygol ledled y byd.

Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Bioeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)