Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BA mewn Addysg yn gwrs tair blynedd sy'n seiliedig ar ymchwil, sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn y maes addysg a thu hwnt.
Mae addysg yn faes astudio pwysig sy'n tynnu ar ddisgyblaethau seicoleg, cymdeithaseg, athroniaeth a hanes, ac yn cynnwys ystod o bynciau gan gynnwys polisi addysg, addysgu a dysgu, lles, datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac addysg ddigidol.
Fel myfyriwr addysg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, a bydd gennych chi sylfaen gadarn mewn damcaniaethau a chysyniadau cyfoes sy'n cael eu llywio gan sylfaen ymchwil gryf. Byddwch chi'n graddio gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol am addysg a byddwch chi'n gallu cymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau byd go iawn, mewn cyd-destunau addysg ac ar draws y byd yn ehangach.
Mae gan y darlithwyr ar y rhaglen hon ystod eang o arbenigedd a phrofiad ym maes addysg, rhai â chefndiroedd ymchwil, eraill â phrofiad fel ymarferwyr proffesiynol, ar lefel gynradd ac uwchradd, gan gynnig sylfaen wybodaeth eang i chi dynnu arni drwy gydol eich astudiaethau.