Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh)

Gallwch archwilio llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant America

students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Astudiaethau Americanaidd a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig cyfle unigryw i chi archwilio diwylliant, gwleidyddiaeth a dylanwad byd-eang yr Unol Daleithiau, ochr yn ochr â hanesion cyfoethog ac amrywiol Prydain, Ewrop a'r byd ehangach. Mae'r rhaglen ryngddisgyblaethol hon yn mynd i'r afael â rhai o faterion mwyaf dybryd ein hoes, gan gynnwys globaleiddio, hawliau sifil a brwydrau dros gyfiawnder hiliol a chymdeithasol.

Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang a beirniadol o newid hanesyddol a diwylliannol, tra'n meithrin sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr, megis meddwl yn ddadansoddol, cyfathrebu ac arbenigedd ymchwil. Mae ein gradd yn hyblyg, gan eich galluogi i deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau, boed yn ymwneud â diwylliant poblogaidd yr Unol Daleithiau, protest wleidyddol, treftadaeth neu hanes meddygaeth ac anabledd.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i astudio dramor yng Ngogledd America am semester neu flwyddyn lawn, i ddyfnhau eich dealltwriaeth o gymdeithas a diwylliant America drwy brofiad uniongyrchol.

Pam Astudiaethau Americanaidd a Hanes yn Abertawe?

Mae'r radd hon yn cael ei haddysgu ar ein campws hardd ym Mharc Singleton, sy'n edrych dros Fae Abertawe ac yn agos at Benrhyn Gŵyr. Mae'n cynnig amgylchedd academaidd bywiog a chefnogol. Dyma raglen uchel ei pharch ymysg cyflogwyr, sy'n cynnwys cyfleoedd rhyngwladol cyffrous.

Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe:

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Graddedigion - Times Good University Guide 2025
  • Ymysg y 5 orau yn y DU am Ansawdd Addysgu - Times Good University Guide 2025
  • 2il yn y DU am Brofiad Myfyrwyr - Times Good University Guide 2025
  • 1af yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr - Complete University Guide 2025
  • 5ed yn y DU am Astudiaethau Americanaidd - Complete University Guide 2025

Hanes yn Abertawe:

  • Yn yr 11eg safle yn y DU ar gyfer Effaith Ymchwil - REF 2021
  • Ymysg y 25 adran orau yn y DU am Foddhad Myfyrwyr - Complete University Guide 2025

Eich Profiad Astudiaethau Americanaidd a Hanes

Mae ein rhaglen yn cynnig cynnwys hyblyg ac amrywiol, sy'n eich galluogi i lunio gradd o amgylch eich diddordebau chi. Gall pynciau gynnwys:

  • Ffilm, cerddoriaeth a llenyddiaeth Americanaidd
  • Hil, rhywedd a hawliau sifil
  • Ymfudo, trefoli, a phrotestiadau gwleidyddol
  • Rhyfel, gwrthdaro a therfysgaeth
  • Treftadaeth, hanes cyhoeddus, ac amgueddfeydd
  • Hanes cymdeithasol Prydain ac Ewrop
  • Crefydd, iechyd a meddygaeth

Mae addysgu yn cael ei lywio gan ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn meysydd fel y Rhyfel Oer, polisi tramor yr Unol Daleithiau, Dadeni Harlem a Rhyfel Cartref America. Byddwch yn elwa o ddulliau rhyngddisgyblaethol ac addysgu mewn grwpiau bach sy'n annog trafodaeth a meddwl yn feirniadol.

Gall myfyrwyr hefyd ymgysylltu ag ystod eang o glybiau a chymdeithasau, gan gynnwys Cymdeithasau Myfyrwyr Astudiaethau Americanaidd a Hanes, sy'n trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol drwy gydol y flwyddyn.

Blwyddyn Dramor

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Americanaidd a Hanes

Mae graddedigion ein gradd Astudiaethau Americanaidd a Hanes yn adnabyddus am eu gallu i addasu, eu creadigrwydd a'u craffter beirniadol. Mae natur ryngddisgyblaethol y radd yn meithrin sgiliau mewn:

  • Ymchwil a dadansoddi
  • Cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gwaith tîm a meddwl yn annibynnol
  • Ymwybyddiaeth ddiwylliannol a safbwyntiau byd-eang

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Addysg
  • Archifau a threftadaeth
  • Amgueddfeydd a hanes cyhoeddus
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y Gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus
  • Busnes ac ymgynghori

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Astudiaethau Americanaidd a Hanes

Astudiaethau Americanaidd a Hanes gyda Blwyddyn Dramor

Astudiaethau Americanaidd a Hanes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant