Astroffiseg, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Image

Trosolwg o'r Cwrs

Ymunwch â ni ar daith i ddatgloi dirgelion y bydysawd. 

Mae ein BSc (Anrh) Astroffiseg yn cyfuno rhesymu dadansoddol, datrys problemau drwy fathemateg a chwilfrydedd gwyddonol i archwilio sut mae'r bydysawd yn gweithio, o fyd cwantwm isatomig i'r strwythurau cosmig mwyaf. 

Rydym yn falch o'n hamgylchedd ymchwil arloesol, lle mae arbenigwyr sy'n flaenllaw yn rhyngwladol yn gweithio ar draws sbectrwm eang ffiseg, gan gynnwys lled-ddargludyddion, nanoffiseg, laserau, gwrthfater, meysydd cwantwm a'r bydysawd cynnar. Mae'r ymchwil hon yn llywio ein haddysgu'n uniongyrchol ac yn darparu amgylchedd ysbrydoledig ar gyfer eich astudiaethau. 

Bydd eich profiad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddarlithoedd, gan roi i chi gyfleoedd i ddefnyddio telesgopau a chanfodyddion a gweithio gyda data seryddol go iawn. Mae ein rhaglenni'n datblygu sylfaen gref mewn ffiseg gan eich galluogi i feithrin sgiliau dadansoddi, cyfrifiadol ac arsylwi a werthfawrogir mewn llawer o sectorau gwyddonol a thechnegol. 

Un o uchafbwyntiau ein gradd yw'r cyfle i ymgymryd â phrosiectau ymchwil uwch, yn aml mewn agweddau arloesol ar ffiseg, dan oruchwyliaeth academyddion o fri rhyngwladol. Mae ein cydweithrediadau helaeth â chyfleusterau uchel eu proffil, gan gynnwys CERN, yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer prosiectau myfyrwyr, interniaethau a phrofiad ymchwil. 

Nod ein rhaglen yw datblygu astroffisegwyr amryddawn a chanddynt yr arbenigedd gwyddonol, y sgiliau meddwl yn feirniadol a chyfathrebu, ynghyd â'r gallu i addasu sy'n angenrheidiol i ffynnu mewn byd darganfod gwyddonol sy'n datblygu'n gyson. 

Pam Astroffiseg yn Abertawe?

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe yn adran uchel ei pharch sy'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Rydym yn falch o fod yn: 

  • 6ed yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026) 
  • Un o'r 20 prifysgol orau ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide) 
  • Ymysg y 201-250 o raglenni gorau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025) 

Mae astudio Astroffiseg yn Abertawe'n cynnig profiad arbennig, gan gynnwys: 

  • Y cyfle i ymuno â thaith maes ryngwladol i gyfleuster seryddol o fri, lle gallwch gasglu a dadansoddi eich data eich hun. 
  • Mynediad at delesgopau robotig o'r radd flaenaf ledled y byd, gan eich galluogi i gynnal arsylwadau seryddol mewn amser real. 
  • Gofod sydd wedi'i neilltuo i fyfyrwyr a staff, sef yr Event Horizon â golygfeydd dros Fae Abertawe. Amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio, cydweithredu a chymuned. 
  • Cymuned academaidd a chymdeithasol fywiog a gefnogir gan yr Adran Ffiseg a Chymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe (PhySoc), sy'n trefnu trafodaethau, darlithoedd gan siaradwyr gwadd o fri a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd. 
  • Cynrychiolwyr sy'n cael eu hethol ar gyfer pob grŵp blwyddyn a'r Gymdeithas Ffiseg i sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed drwy gyfarfodydd rheolaidd ag arweinwyr academaidd. 
  • Addysgu sydd wedi'i lywio gan grwpiau ymchwil blaenllaw yn rhyngwladol ym meysydd ffiseg gronynnau a damcaniaeth cosmoleg, deunyddiau cymhwysol a'r cydweithrediad gwrthfater ALPHA sydd â chysylltiadau agos â CERN. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i gyflwyno cais am interniaethau haf yn CERN ac ymgymryd â phrosiectau blwyddyn olaf gydag unrhyw un o'n prif grwpiau ymchwil. 
  • Cyfleoedd i gydweithredu â'n Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integredig (CISM) y buddsoddwyd £50m ynddi yn eich prosiect blwyddyn olaf, gan gynnig cyfleoedd i ryngweithio â diwydiannau lled-ddargludydd lleol. 
  •  

Eich Profiad Astroffiseg

Drwy gydol eich gradd BSc (Anrh) Astroffiseg, byddwch yn meithrin sylfaen gref mewn ffiseg sylfaenol, mathemateg ac astroffiseg, wedi'i hategu gan brofiad ymarferol o dechnegau arsylwi ac offeryniaeth seryddol. 

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau gorfodol sy'n cefnogi nodau craidd y rhaglen gan gynnwys pynciau megis: dynameg alaethol, cosmoleg, technegau seryddol a dynameg serol, ynghyd â phrosiectau ymchwil a theithiau maes sydd wedi'u teilwra i astroffiseg; bydd y rhain yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i ddatblygu sgiliau arbenigol a rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith. 

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd lle caiff arbenigedd ffiseg, gallu dadansoddol a gwybodaeth arbenigol am astroffiseg eu gwerthfawrogi'n fawr, boed mewn seryddiaeth neu mewn meysydd gwyddonol a thechnegol ehangach. 

Bydd gennych gyfle i dreulio blwyddyn dramor, yn cyfoethogi eich profiad academaidd ac yn elwa o ddatblygiad diwylliannol a phersonol amhrisiadwy. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Astroffiseg

Mae graddedigion Astroffiseg Abertawe wedi sicrhau gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys rolau fel ffisegwyr ymchwil, gwyddonwyr data, peirianwyr AI a meddalwedd, rhagfynegwyr galw, archwilwyr patentau a dadansoddwyr cyllid meintiol. Mae ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yn dangos eu cyfraniad at lawer o sectorau, megis ymchwil i’r llywodraeth, awyrofod, amddiffyn, ynni, niwclear, peirianneg, y sector preifat, addysg ac archwilio'r gofod. Mae llawer yn cynnal cysylltiadau cryf â'r adran, gan rannu eu profiadau a chefnogi myfyrwyr presennol. 

Mae canran sylweddol o'n graddedigion yn mynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Astroffiseg, BSc (Anrh)

Astroffiseg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Astroffiseg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Astroffiseg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)