Archwilio gororau ymchwil iechyd a chymdeithasol 

Mae gwyddoniaeth a gofal iechy wedi parhau wedi eu cydlethu trwy gydol eu cynnydd a'u hesblygiad ac nid yw hyn yn fwy amlwg nag yn natblygiad cyffuria a fferyllfeydd newydd.

Mae'r broses o ddatblygu cyffuriau yn destun proses drylwyr o dreialon clinigol a gwerthusiad cyn iddynt gael eu trwyddedu i'w defnyddio, mae risg bob amser yn digwydd o ran adweithiau cyffuriau anffafriol (ADRs), yn enwedig pan fo meddyginiaethau eraill yn gysylltiedig.

Mae ein hymchwil i fonitro meddyginiaethau ac adweithiau cyffuriau andwyol yn archwilio ffyrdd y gellir lleihau risgiau ADR, heb gyfaddawdu effeithiau buddiol meddyginiaethau. A chymaint yw pwysigrwydd rheoli meddyginiaethau ei fod yn un o bump o glystyrau sgiliau hanfodol a bennir gan gorff statudol y DU ar gyfer y cwricwlwm nyrsio.

Mae datblygu canllawiau a rhestrau gwirio ar gyfer lleihau adweithiau cyffuriau niweidiol sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth gwrthseicotig yn faes pwysig o'n gwaith, ac mae wedi cael ei groesawu'n rhyngwladol. Er enghraifft, mae proffil West Wales Adverse Drug Reaction wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad â defnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr iechyd meddwl yn cael ei ddefnyddio ar draws y DU a’r Iseldiroedd.

Un ardal nodedig lle y cyflawnwyd effaith fawr yw mewn rheoli meddyginiaethau a bwydo babanod.

Darllen mwy am  Brosiect Adweithiau Cyffuriau Anffafriol

Prosiectau

Mae rhai o’n prosiectau wedi eu manylu isod:

Defnydd o Feddigyniaeth mewn Beichiogrwydd: Fasogyfyngwyr ac Abnormaleddau Genedigol

Astudiaeth o £ 2.5 miliwn wedi'i ariannu trwy Fframwaith 7 i ddod ag arbenigwyr o bob rhan o Ewrop at ei gilydd ym meysydd diogelwch cyffuriau yn ystod beichiogrwydd. Nod y prosiect yw darparu fframwaith y gellir ei ddefnyddio i wella ein dealltwriaeth o gyffuriau, gan arwain at ‘broffiliau budd-risg' well mewn perthynas â'r risg o ddiffygion geni trwy eu defnyddio yn ystod beichiogrwydd.

Monitro Meddigyniaeth a Arweinir gan Nyrs ar gyfer Cleifion gyda Dementia mewn Cartrefi Gofal yn Ne Orllewin Cymru: Astudiaeth Dichonolrwydd ar gfyer Treial Stepped Wedge

Mae dros UN draean o drigolion cartrefi gofal yn derbyn cyffur gwrth-iselder, ond mae eu defnydd yn gysylltiedig â digwyddiadau niweidiol difrifol. Mae'r astudiaeth hon wedi'i ariannu trwy Ysgol Ymchwil Gofal Sylfaenol / NISCHR, mae £23,077 yn edrych i asesu a yw monitro meddyginiaethau (trwy gyflwyno Proffil ADR Gorllewin Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl) yn cael effaith ar enillion clinigol, gweithrediad cleifion, dogfennaeth a defnyddio meddyginiaeth o fewn y cartref gofal.

Ymchwilwyr Cyhoeddiadau