Nod ymchwil Nyrsio yn Abertawe yw hybu ein dealltwriaeth o'r modd y gall nyrsys gynorthwyo pobl yn well yn ystod salwch ac i gyflawni bywydau iach. Mae ymchwil nyrsio yn allweddol i wella iechyd y boblogaeth, gan mai nyrsys yw'r grŵp proffesiynol mwyaf yn y GIG sy’n darparu'r mwyafrif o ofal. 

Gwnawn hyn mewn dwy ffordd:

  1. Prosiectau ymchwil sydd wedi'u hanelu at wella bywydau pobl
  2. Ymchwil i sicrhau ein bod yn paratoi nyrsys yn ogystal â'n gallu ar gyfer y dyfodol

Mae ffrydiau gwaith yn cynnwys gwella ein gwybodaeth am iechyd a salwch a sut y gellir rheoli'r rhain orau, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau bod gofal iechyd yn cael ei gyfeirio i wella ecwiti o fynediad, gwella'r ffordd yr ydym yn defnyddio meddyginiaethau ac ymgymryd ag ymchwil addysgeg - ysgoloriaeth addysgu a dysgu

Uchafbwyntiau Ymchwil nyrsio

Fel Adran Nyrsio flaengar yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n sicrhau bod ein myfyrwyr ar flaen y gad o ran ymchwil nyrsio. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar wella gofal cleifion ac ymarfer nyrsio. Rydyn ni’n archwilio materion o anghydraddoldeb ym maes iechyd, goroesi canser, menopos, ac iechyd gweiniol. Ein nod yw sicrhau bod y rhai o grwpiau dan anfantais a’r grwpiau ar y cyrion yn derbyn mynediad gwell at ofal iechyd a ffyrdd o fyw iachach. 

Dealltwriaeth a rheolaeth iechyd a salwch

Mae ein rhaglen o ymchwil, sy’n cael ei harwain gan Yr Athro Deborah Fenlon, yn archwilio materion ymwneud â goroesedd canser, fel diwedd y mislif, lymffoedima a iechyd y wain, a sut y gall rhain cael eu rheoli drwy ymyriadau a harweinir gan nyrsysr, hunan – rheolaeth ac ymyriadau clinigol. Dechreuwn gyda’r claf a’r hyn maent yn eu profi, y problemau maent angen help gyda hwy, ac yn archwilio a phrofi ffyrdd i helpu pobl i ddelio gyda’r problemau yma ac i facsimeiddio eu hiechyd. 

Taclo anghydraddoldebau iechyd

 Yr Athro Louise Condon sy’n arwain thema ymchwil sy'n archwilio iechyd pobl dan anfantais ac sy’n ymylol, gyda'r nod o nodi ffyrdd o wella mynediad at wasanaethau iechyd a hwyluso ffyrdd o fyw iachach. Mae prosiectau cyfredol yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a chorfforol Sipsiwn a Theithwyr, ac ar y gwasanaethau y mae ymwelwyr iechyd yn eu darparu i gynnal lles plant. Mae'r rhain yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn bodoli ar yr heriau iechyd a brofir gan grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig, a hybu iechyd plant.

Darganfod mwy am brosiectau ymchwil Taclo Anghydraddoldebau Iechyd...

Ymchwil iechyd meddwl pobl fyddar

Mae Dr Julia Terry yn arwain grŵp rhwydwaith newydd sydd wedi'i sefydlu i ddarganfod mwy am iechyd meddwl pobl Fyddar. Oeddech chi'n gwybod bod gan oddeutu 40% o bobl Fyddar broblemau iechyd meddwl?

RHEOLI MEDDYGINIAETHAU

Mae rheoli meddyginiaethau yn hanfodol ar gyfer unrhyw ystyriaeth gyfannol o iechyd a lles, ac mae hefyd yn agwedd bwysig ar ddarparu gwasanaethau iechyd (thema NIHR). Mae rheoli meddyginiaeth yn dibynnu ar gydweithrediad rhyngddisgyblaethol rhwng polisi nyrsio, iechyd a chymdeithasol, meddygaeth, fferyllfa, a ffarmacoleg. Fel pob grŵp llwyddiannus, mae rhai o'n cyhoeddiadau yn archwilio dulliau ymchwil i ddatblygu manwl gywirdeb y ddisgyblaeth.

Grŵp rhyngddisgyblaethol ydym ni gydag ymyriad y bydd ei effaith yn mynd i'r afael â her diogelwch cleifion fyd-eang WHO gyfredol a lefel anghynaladwy o dderbyniadau i'r ysbyty (5-8%) a achosir gan adweithiau cyffuriau anffafriol.