Mae bwydo ar y fron ac iechyd meddwl mamau yn bwnc sy'n aml yn y penawdau. Awgryma nifer o erthyglau ein bod yn rhoi gormod o bwysau ar famau newydd i fwydo ar y fron. Fodd bynnag, pan fydd bwydo ar y fron yn mynd yn dda, a mamau eisiau bwydo ar y fron, dengys ein hymchwil bod y gallu i fwydo ar y fron wir yn gallu helpu diogelu eu hiechyd meddwl.

Rydym hefyd yn gwybod y gall anhawster bwydo ar y fron a gorfod rhoi'r gorau i fwydo ar y fron cyn i chi fod yn barod gynyddu'r risg o iselder ôl-enedigol. Mae ein hymchwil yn dangos mai'r mwyaf o gymhlethdodau sydd gan famau fel poen, anhawster neu gyflenwad llaeth isel, y fwyaf yw’r risg o iselder ôl-enedigol, yn enwedig os oes angen iddynt roi'r gorau i fwydo.

Mae'n bwysig iawn os yr ydych yn fam sy'n bwydo ar y fron ac yn ei chael hi'n anodd bwydo ar y fron neu sut rydych chi'n teimlo i gael cymorth. Gofynnwch i'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd am eich grŵp cefnogi bwydo ar y fron lleol neu ffoniwch National Breastfeeding Helpline yn rhad ac am ddim ar 0300 100 0212.

 

Darganfod mwy: 

 

  • Rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod bwydo ar y fron yn derbyn mwy o gymorth er mwyn helpu i ddiogelu iechyd meddwl mamau. Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn:

 

Fframwaith Cymhwysedd Iechyd Meddwl Amenedigol ar gyfer pobl Broffesiynol a Gwirfoddolwyr sy’n cefnogi Bwydo Babanod