Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

Rhaglen genedlaethol yw Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) i ganfod retinopatheg diabetig yn gynnar cyn i bobl golli eu golwg. Ar gyfer pobl a gaiff eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth, caiff lluniau o’r retina eu tynnu gan ddefnyddio camera arbenigol. Caiff y lluniau eu hasesu gan Raddwyr y Retina ar gyfer presenoldeb a difrifoldeb retinopatheg diabetig; ac os bydd gan gleifion lefelau digonol o retinopatheg diabetig, cânt eu hatgyfeirio i Offthalmolegydd i’w hasesu ymhellach. [1]

Y Prosiect

Ym mis Ionawr 2016, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU fod cyfnodau sgrinio ar gyfer retinopatheg diabetig yn cael eu hymestyn i unwaith bob dwy flynedd yn hytrach na’n flynyddol ar  gyfer oedolion â diabetes heb dystiolaeth o retinopatheg diabetig mewn dau apwyntiad dilynol.[2] Comisiynwyd y Ganolfan gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ymchwilio i effaith ymestyn cyfnodau sgrinio yng Nghymru ar gleifion a’r economi, yn unol ag argymhellion newydd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Y gwerthusiad

Gan ddefnyddio data graddio retinopatheg diabetig o DESW ynghyd â data meddygon teulu a gysylltir gan ddefnyddio Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL – dolen i wefan SAIL), llwyddodd y Ganolfan i ddadansoddi’r canlyniadau sgrinio retinopatheg diabetig ynghyd â ffactorau risg posibl eraill (HbA1c, hyd a thriniaeth gyfredol ar gyfer diabetes, pwysedd gwaed, colesterol, rhyw a statws smygu) mewn pobl â diabetes.

Defnyddiwyd dadansoddiad atchweliad Weibull i amcangyfrif risg y cynnydd i retinopatheg diabetig y gellid ei hatgyfeirio o fewn y llwybr sgrinio i boblogi modelau Markov ar gyfer diabetes math 1 a 2 yn y drefn honno.

Yr hyn a ganfuwyd?

Wrth gymharu sgrinio bob dwy flynedd â sgrinio blynyddol, cynyddodd costau triniaeth ar gyfer y bobl â diabetes math 1 a 2 ac roedd ansawdd bywyd yn gwaethygu o ganlyniad i gyflwr mwy datblygedig y retinopatheg diabetig a ganfuwyd ar ôl 2 flynedd.

[1] Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru - Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru

[2] Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Datganiad argymhelliad retinopatheg diabetig. Ionawr 2016. legacy.screening.nhs.uk/diabeticretinopathy