Cefnogi Cymru fel canolfan ragoriaeth economeg iechyd

Yn 2009, ailstrwythurwyd GIG Cymru er mwyn caniatáu mwy o ffocws ar ddarpariaeth rheng flaen ar gyfer gofal iechyd. Mae poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn nifer y bobl sy’n byw â chyflyrau cronig yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar GIG Cymru. Ceisiodd y strwythur newydd ganiatáu proses dryloyw o wneud penderfyniadau er lles cleifion a staff (GIG Cymru. Pam rydym yn newid y strwythur, Hydref 2009). Mae angen gwneud y penderfyniadau hyn drwy ystyried gwerth am arian. Mae’r Ganolfan yn chwarae rôl bwysig wrth ddarparu tystiolaeth i wneud y penderfyniadau hyn.

Mae’r Ganolfan yn rhan o Wasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (GCEIC), a gomisiynwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Mae GCEIC yn darparu cymorth economeg iechyd yn ystod camau cysyniadol cynnar y broses o gynllunio cynigion ymchwil, wrth wneud cais am gyllid ar gyfer ymchwil, wrth ymchwilio a dosbarthu a gweithredu canfyddiadau ymchwil. Ers i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) gael ei sefydlu yn 2002, mae’r Ganolfan wedi chwarae rhan allweddol o ran darparu tystiolaeth a chyngor economaidd. Pippa Anderson yw’r economegydd iechyd ar gyfer grŵp Dyfeisiau Meddygol a Defnyddiau Traul Cymru Gyfan a’r Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG). Debs Fitzsimmons yw’r economegydd iechyd ar gyfer panel y Grŵp Comisiynu Llwybrau Interim (IPCG) a dirprwy aelod NMG. Mae Berni Sewell yn arwain mewnbwn y Ganolfan i arfarniadau economaidd AWMSG, a Sara Groves yw economegydd iechyd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTCC).