Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Effaith Trychinebau Naturiol ar asedau bywoliaeth a gwendid ôl-drychineb Pobl Hŷn yn Nepal

Proffil Personol

Fe wnes i gwblhau fy ngradd israddedig o Brifysgol Bradford mewn Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol yn 2014. Yna cefais gyfle i weithio gyda phobl hŷn mewn swydd Cynghorydd Maeth a Phennaeth Gofal am oddeutu 2 flynedd. Wedi bod yn rhan o'r proffesiwn gofal iechyd trwy seiliau clinigol ac all-glinigol am fwy na degawd, yma yn y DU ac yn ôl gartref yn Nepal, ynghyd â diddordeb brwd mewn rheoli prosiect, newidiais fy nghyfeiriad academaidd a graddiais gydag MSc Gradd Rheoli Prosiect o Brifysgol BPP Llundain, ynghyd â lefel 7 mewn Rheoli Strategol ac Arweinyddiaeth.

Fy Ymchwil

Cychwynnais ar gwrs radd PhD ym mis Ebrill 2018. Bwriad y radd yw rhoi mewnwelediad i effaith trychinebau naturiol ar asedau bywoliaeth a bregusrwydd pobl hŷn yn dilyn trychineb mewn cymunedau gwledig yn Nepal. Ac yna, nod yr ymchwil hon yw nodi'r bregusrwydd ac ymchwilio i'r effaith uniongyrchol a hirdymor ar yr asedau bywoliaeth yn dilyn trychineb naturiol er mwyn sefydlu i ba raddau y mae hyn yn diwallu anghenion yr henoed. Archwilia ymhellach y ddarpariaeth a’r cydlynu o brosiectau ôl-drychineb a'u seiliau gweithredol.

Ar wahân i edrych i mewn i fregusrwydd pobl hŷn yn dilyn trychinebau a seiliau gweithredol prosiectau ôl-drychineb, tafla olau ar bolisi a'r canllawiau tuag at reoli trychinebau ar lefel y wladwriaeth, yn genedlaethol a rhyngwladol i nodi a yw'r rhain wedi cael unrhyw effaith ai peidio ar lefel gwreiddiau'r glaswellt.

Goruchwylwyr

Yr Athro Vanessa Burholt, Dr Martin Hyde

Cyswllt

935849@swansea.ac.uk 

Llun o Kailash Khanal