Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Archwilio'r broses rhoi'r gorau i yrru ymhlith gyrwyr hŷn presennol, a'r rhai sydd eisoes wedi rhoi'r gorau iddo, ac aelodau o'u rhwydwaith cymdeithasol anffurfiol

Fy Nghefndir

Tra wnes i gwblhau BSc mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol ac MSc mewn Astudiaethau Heneiddio ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2009-2013, gweithiais i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel Cynghorydd Pensiwn y Wladwriaeth, gan newid i fod yn swyddog profedigaeth yn rhan olaf fy nghyflogaeth. Ymgymerais hefyd â rolau gwirfoddol wrth astudio, gan weithio fel Mentor Cyfathrebu Grŵp i'r Gymdeithas Strôc, ac fel Gwirfoddolwr Cymorth Cwsmer i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol. Roedd y ddwy swydd yn gysylltiedig ag oedolion hŷn, a'u bwriad oedd sicrhau bod pob person hŷn a ddaeth i gysylltiad â'r ddau sefydliad yn gallu byw bywyd llwyddiannus yn hwyrach wrth ystyried eu hanghenion a'u hamgylchiadau penodol.

Fy Ymchwil

Archwilia fy ymchwil PhD y broses o roi’r gorau i yrru yn hwyrach mewn bywyd, ymhlith oedolion hŷn a'u haelodau rhwydwaith cymorth anffurfiol. Mae tri deg o gyfweliadau lled-strwythuredig, unigol wedi'u cynnal gyda gyrwyr hŷn cyfredol ac wedi ymddeol, ynghyd â'u teulu, ffrindiau a chymdogion fel rhan o'r astudiaeth ffenomenolegol. Yn dilyn cwblhau'r prosiect ymchwil, y bwriad yw gweithio tuag at fesurau cynllunio i leihau effaith negyddol y trawsnewid hwn ar ansawdd bywyd a lles, ynghyd â llywio polisi ac arfer y canfyddiadau.

Ar wahân i ganolbwyntio ar symudedd a thrafnidiaeth yn hwyrach mewn bywyd, mae fy niddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys; Ymestyn Bywydau Gwaith, Ymddeol, Unigrwydd, a Rôl Rhwydweithiau Cymorth Anffurfiol yn hwyrach mewn bywyd.

Goruchwylwyr

Dr Charles Musselwhite & Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby

Llwyddiannau Academaidd Eraill

Cyflwynais fy ymchwil mewn nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys seminarau, gweithdai a chynadleddau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Unigrwydd yn Hwyrach Mewn Bywyd: Ymchwil, Ymrwymiad & Effaith: Prifysgol Caerdydd (Mai 2015)
    Cyflwynwyd canfyddiadau rhagarweiniol PhD yn ffocysu ar sut y gall gyrru arwain at unigrwydd i gynulleidfa leyg, yn cynnwys llunwyr polisi, academyddion ac aelodau’r cyhoedd.
  • Cynhadledd Canolfan Ymchwil a Heneiddio Cymru (CADR): Prifysgol Caerdydd (Hydref 2016)
    Rhoddais gyflwyniad poster yng nghynhadledd CADR, wnaeth grynhoi cefndir yr ymchwil, y dull methodolegol a darganfyddiadau rhagarweiniol y PhD.
  • Seminar Ymchwil CADR - Amgylcheddau o Heneiddio: Prifysgol Abertawe (Medi 2017)
    Cynhaliwyd y cyflwyniad hwn gan ganolbwyntio ar archwilio rhoi’r gorau i yrru yng nghyd-destun yr amgylchedd cymdeithasol ac adeiledig, gan amlinellu enghreifftiau penodol o ganfyddiadau ymchwil PhD.
  • British Society of Gerontology Conference: Prifysgol Abertawe (Gorffennaf 2017)
    Canolbwyntiodd y cyflwyniad penodol hwn ar un elfen o ganfyddiadau fy ymchwil PhD - yn ymwneud â Chyd-destun Gwneud Penderfyniadau aelodau rhwydwaith cymorth anffurfiol gyrwyr hŷn cyfredol ac wedi ymddeol, o ran yr hyn sydd naill ai'n ysgogi neu'n di-ysgogi pobl i ddarparu cefnogaeth anffurfiol drwy gydol y broses o roi’r gorau i yrru.
  • British Society of Gerontology Conference: University of Manchester (Gorffennaf 2018)
    Cafodd darganfyddiadau eu cyflwyno o ymchwil PhD yn ymwneud â phrofiadau gyrwyr a oedd wedi ymddeol o gefnogaeth anffurfiol a roddwyd iddynt unwaith yr oeddent wedi rhoi’r gorau i yrru. Fe wnaeth y cyflwyniad yma dynnu ar ganlyniadau ymarferol a seicogymdeithasol o ddefnyddio cefnogaeth anffurfiol fel dewis arall i yrru’n hwyrach mewn bywyd, yn ogystal â’r rhwystrau yn ymwneud â’r defnydd o gefnogaeth anffurfiol.

Darlithio

Rwyf hefyd wedi cynnal nifer o ddarlithoedd trwy gydol fy astudiaeth PhD, gan yn fwyaf diweddar, cynnull dau fodiwl. Mae darlithoedd wedi bod yn gysylltiedig i raddau helaeth â'm hymchwil MSc a PhD, lle rwyf wedi gallu tynnu ar brofiadau bywyd go iawn, i rannu mewnwelediadau ymchwil gyda myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn yr ystafell ddosbarth. Yn benodol, mae'r addysgu hyd yma wedi pontio ar draws Polisi Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ac Epidemioleg. Mae'r pynciau dan sylw wedi cynnwys; Trafnidiaeth a Symudedd yn hwyrach mewn bywyd, Oedraniaeth, Heneiddio Poblogaeth Gymharol, Oedolion Hŷn a Chwrs Bywyd, a Dulliau Ymchwil Cymdeithasol.

Cyswllt

554084@swansea.ac.uk 

Llun o Amy Murray