Mae pwyslais cynyddol ar allu’r Gwasanaeth Iechyd i ddarparu gwasanaeth priodol i gleifion yn Gymraeg a galw sylweddol a chynyddol yn y maes am Nyrsys a Bydwreigiaid sy’n medru’r Gymraeg, ac sy’n hyderus i ddelio â chleifion yn Gymraeg.

Mae’r Fframwaith Strategol Olynol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru yn ceisio annog mwy o ddarparwyr gwasanaethau i gydnabod bod y defnydd o’r Gymraeg yn fwy na mater o ddewis yn unig, ei fod hefyd yn fater o angen. Mae’n arbennig o bwysig i nifer o bobl agored i niwed a’u teuluoedd gael mynediad at wasanaethau yn eu mamiaith, megis pobl hŷn sy’n dioddef o ddementia neu sydd wedi cael strôc ac sydd o bosib wedi colli eu hail iaith, neu blant ifanc iawn sydd efallai ond yn siarad Cymraeg.

Yr hyn sy’n ganolog i’r holl ddadleuon dros gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yw diogelwch, urddas a pharch i gleifion. Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw a gellir peryglu ansawdd y gofal drwy fethu â chyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf. Er mwyn i chi deimlo’n hyderus i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth weithio, mae’n syniad da i chi astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fel eich bod chi’n parhau i ymarfer ac yn gyfarwydd gyda geirfa ac ymadroddion y maes er mwyn gallu defnyddio’r Gymraeg gyda chleifion.  

Caiff pob myfyriwr sy'n astudio BMid (Anrh) Bydwreigiaeth

  • Dewis dilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg
  • Dewis gweithio gyda mentor sy'n siarad Cymraeg
  • Cael Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg (lle’n bosib)
  • Cyflwyno aseiniadau yn y Gymraeg
  • Derbyn lifrai sy'n dangos y logo Cymraeg ar gyfer cyfnodau ymarfer
  • Lawrlwytho ein ap am ddim : Gofalu Trwy'r Gymraeg
  • Yn ogystal â hynny, mae gan bob myfyriwr israddedig cyn-gofrestru fynediad at ddogfennau portffolio dwyieithog.

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau

  • Cynigir Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500, i fyfyrwyr sy'n astudio Gwaith Cymdeithasol.
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi ar gael i fyfyrwyr Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol a Seicoleg (Mae Amodau ar y cynllun hwn)

Modiwlau Bydwreigiaeth sydd ar gael yn y Gymraeg

SGILIAU ASTUDIO AR GYFER BYDWREIGIAETH (SHN124W)

10 CREDYD, SEMESTR 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r sgiliau adlewyrchu a chonfensiynau o ysgrifennu traethodau ar lefel israddedig.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

SYLFEINI AR GYFER BYDWREIGIAETH YMARFEROL (SHM125W)

40 CREDYD, SEMESTR 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r sgiliau bydwreigiaeth ymarferol, a bydd yn cael ei gynnal ar leoliad gyda’r mentoriaid o fewn gosodiadau bydwreigiaeth. 

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

DATBLYGU BYDWREIGIAETH YMARFEROL (SHM245W) 

40 CREDYD, SEMESTR 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn parhau i ddatblygu sgiliau ymarferol bydwreigiaeth, a bydd yn cael ei gynnal ar leoliad gyda’r mentoriaid o fewn gosodiadau bydwreigiaeth.

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

BYDWREIGIAETH YMARFEROL EFFEITHIOL (SHM329W) 

40 CREDYD, SEMESTR 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn parhau i ddatblygu sgiliau ymarferol bydwreigiaeth y fyfyrwraig/myfyriwr, a bydd yn cael ei gynnal ar leoliad gyda’r mentoriaid o fewn gosodiadau bydwreigiaeth.


Manylion Pellach

Anneka Bell

Darlithydd Bydwreigiaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe.