Gall y tudalennau hyn eich helpu i wneud penderfyniadau am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ysgol Seicoleg

Seicoleg

Cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg

Caiff pob myfyriwr sy'n astudio yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

  • Dewis cael ei cyfweld yn y Gymraeg wrth geisio am le

  • Dewis gweithio gyda mentor sy'n siarad Cymraeg os yn astudio cwrs sydd â lleoliad gwaith ynddo

  • Cael Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg 

  • Cyflwyno aseiniadau yn y Gymraeg

  • Dewis llety sydd wedi’i neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg

  • Lawrlwythwch ein ap am ddim yma: Gofalu Trwy'r Gymraeg

Yn ogystal â hynny, bydd gan bob myfyriwr israddedig cyn-gofrestru (sy'n cynnwys myfyrwyr bydwreigiaeth, gwyddor barafeddygol, nyrsio, a gwyddor gofal iechyd) fynediad at ddogfennau portffolio dwyieithog, ac mae gan bob myfyriwr Cymraeg ei iaith logo ar y lifrai a wisgir yn ystod ei gyfnodau ymarfer.

  • Mae darpariaeth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr BSc Nyrsio Oedolion, BSc Nyrsio Plant, a BSc Nyrsio Iechyd Meddwl, a myfyrwyr BSc Gwaith Cymdeithasol. 

Ariannu

  • Cynigir Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fyfyrwyr sy'n astudio ystod o gyrsiau gradd -  yn rhannol neu yn gyfan gwbl - trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Telerau ac Amodau ar y cynllun hwn.

  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi ar gael i fyfyrwyr Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol a Seicoleg (Mae Amodau ar y cynllun hwn).