Un o brif amcanion cefnogi myfyrwyr meddygol i ddatblygu eu gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yw gwella gofal cleifion. Mae’n bleser gennym gynnig cyfleoedd Cymraeg i bob myfyriwr sy’n cwblhau’r cwrs GEM.

Ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl:

O leiaf 50 credyd:

Mae cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio o leiaf 50 credyd o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi’u penodi o’r newydd yn 2021, mae dau aelod ymroddedig o staff academaidd a’u rolau yw datblygu darpariaeth Gymraeg y cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Mae Academi Hywel Teifi yma hefyd i'ch cefnogi drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Mynediad at ysgoloriaethau neu fwrsariaethau astudio Cymraeg.
  • Cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Cyfle i fynychu sesiynau sgiliau clinigol rheolaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Yr opsiwn i dderbyn eich gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.
  • Mentor Academaidd sy’n siarad Cymraeg yn cael ei ddyrannu’n awtomatig i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.
  • Cyfleoedd i hyfforddi gyda gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n siarad Cymraeg a sgwrsio â chleifion yn Gymraeg tra ar leoliadau.
  • Cyfleoedd i gael eich paru â chleifion Cymraeg eu hiaith ar gyfer astudiaethau achos blwyddyn o hyd.
  • Cyfleoedd i fyfyrio ar eich profiadau clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad i adnoddau cyfrwng Cymraeg megis fideos arholiad clinigol cyfrwng Cymraeg.
  • Cyfleoedd i drafod proffesiynoldeb trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cyfle i ymuno â thîm MedSoc (Cymdeithas Feddygol Prifysgol Abertawe) fel Swyddog yr Iaith Gymraeg.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol rhad ac am ddim sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn y Gymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Yr opsiwn i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs neu arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg. Mae yna farcwyr penodedig sy'n siarad Cymraeg ar gyfer asesiadau ysgrifenedig megis adfyfyrio ar leoliad ac astudiaeth achos teulu'r flwyddyn gyntaf.
  • Cyfrannu at gynllun mentora fel rhan o Doctoriaid Yfory, gan gynnig cymorth a chefnogaeth i ymgeiswyr y dyfodol.
  • Lawrlwythwch ein ap am ddim: Gofalu Trwy’r Gymraeg
  • Mynediad i ap symudol Arwain am y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau a modiwlau cyfrwng Cymraeg o fewn y Brifysgol. (Ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'r App Store a Google Play.)

Ewch i dudalen we Hawliau’r Gymraeg am ragor o wybodaeth am hawliau Myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol neu goleg yn gam naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich siawns o gael yr addysg orau bosib. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch Cofnod Cyrhaeddiad (CV), eich datblygiad proffesiynol a’ch gyrfa fel Meddyg yn y dyfodol, yma yng Nghymru gobeithio.

Ar gyfer siaradwyr Cymraeg llai hyderus neu’r di-Gymraeg:

  • Yn ystod yr wythnos sefydlu mae holl fyfyrwyr blwyddyn 1af GEM yn mynychu seminar Meddygaeth yng Nghymru lle mae myfyrwyr yn dysgu mwy am fyw a gweithio yng Nghymru yn ogystal â phwysigrwydd y Gymraeg mewn gofal iechyd.
  • Cwrs iaith Cymraeg i Feddygaeth am ddim a gynhelir gan Academi Hywel Teifi ar gael i holl fyfyrwyr GEM.

Mae croeso i bawb ymuno â’n Cymdeithas Feddygol Gymraeg – Cymdeithas Feddygol Gymraeg Prifysgol Abertawe – sy’n cynnal sesiynau cymdeithasol ac addysgol yn Gymraeg ac yn ddwyieithog. Trydar ac Instagram - @CymFeddygolTawe

Edrychwn ymlaen i dderbyn croeso i Abertawe!