Gwerthuso Effaith Gweithgareddau Rhwng y Cenedlaethau ar Gartrefi Gofal

Mae Canolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal ymchwil â'r nod o gymharu canlyniadau gweithgaredd rhwng y cenedlaethau ac un genhedlaeth drwy holiaduron, arolygon a chyfweliadau, er mwyn archwilio effaith gweithgareddau ar weithio mewn cartrefi gofal, byw ynddynt ac ymweld â nhw. Buddion cymryd rhan yw:

  • Asesu a yw gweithgareddau presennol yn ennyn diddordeb pawb;
  • Nodi ffyrdd o ddefnyddio adnoddau i'r eithaf er mwyn cynyddu'r profiadau a'r canlyniadau cadarnhaol;
  • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil a datblygu i breswylwyr, staff, ffrindiau a theulu;
  • Darparu adborth ar arfer gorau drwy roi gweithgareddau ystyrlon ar waith;
  • Sefydlu cysylltiadau â’r gymuned ehangach.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kate Howson:

e-bost - k.e.howson@abertawe.ac.uk; ffôn – 07930 240425.

Ychwanegu Gwerth at Fywyd mewn Lleoliad Gofal drwy Ymarfer Rhwng y Cenedlaethau

Dr Catrin Hedd Jones

Datblygu dull asesu amgylcheddol dan do i bobl â dementia ysgafn i ganolig sy'n byw mewn cartrefi nyrsio, cartrefi preswyl, cartrefi â chymorth a chartrefi â gofal ychwanegol

Verity Walters, Prifysgol Abertawe

Nod allweddol yr astudiaeth hon yw datblygu a phrofi dull â'r posibilrwydd o wella amgylcheddau byw dan do i'r bobl hynny sydd ar gamau cynnar neu ganolig dementia ar draws amrywiaeth o leoliadau preswyl (cartrefi lloches, cartrefi gofal ychwanegol, cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio). Bydd yn galluogi defnyddwyr i asesu addasrwydd amgylchedd byw i bobl â dementia, ond gellir hefyd ei ddefnyddio wrth ddatblygu cyfleusterau newydd i bobl â dementia.

Mae'r adolygiad llenyddiaeth yn dangos cysylltiad rhwng yr amgylchedd byw dan do a chynnal awtonomiaeth ac annibyniaeth mewn lleoliad diogel.

Mae gan yr ymchwil bedwar cam:

  1. Adolygiad llenyddiaeth.
  2. Defnyddio adolygiad llenyddiaeth i lywio gwaith datblygu dull casglu data ar gyfer y grŵp ffocws.
  3. Datblygu'r raddfa'n feintiol drwy grwpiau ffocws a chyfweliadau.
  4. Profi'r raddfa sy'n cynnwys cyfweliadau gwybyddol â rhanddeiliaid.

Bydd grŵp ffocws a chyfweliad gwybyddol ar gyfer pob un o'r pedwar lleoliad:

  1. Cartrefi lloches.
  2. Cartrefi gofal ychwanegol.
  3. Cartrefi preswyl.
  4. Cartrefi nyrsio.

Yn ogystal, cynhelir cyfweliadau unigol â gweithwyr proffesiynol megis rheolwyr cartrefi gofal a rheolwyr cymdeithasau tai. Y nod yw recriwtio 36 o gyfranogwyr, 8 o bob lleoliad. Bydd y rhain yn cynnwys cyfuniad o 7 cyfranogwr â dementia a'u gofalwyr ac 1 gweithiwr proffesiynol ym mhob lleoliad.

Verity Walters: 448072@abertawe.ac.uk

Ymchwil "Person fel fi":Hawliau Dynol i bobl sy'n byw â dementia mewn cartrefi gofal

Lesley Butcher, Prifysgol Caerdydd

Mae'r prosiect ymchwil hwn yn cynnwys archwilio sut y gallwn ni gynnal hawliau dynol pobl sy'n byw â dementia mewn cartrefi gofal yn well. Mae rhan gyntaf yr astudiaeth yn cynnwys digwyddiad i randdeiliaid ym mis Tachwedd 2019, sy'n tynnu ar themâu o sawl grŵp ffocws. Yn seiliedig ar y rhain, caiff pecyn e-ddysgu pwrpasol i staff cartrefi gofal ei dreialu. Bydd hanner y cartrefi gofal yn derbyn addysgu "hawliau dynol mewn gofal dementia" wyneb yn wyneb a'r hanner arall yn derbyn e-ddysgu, a chaiff y ddau fath o ddysgu eu cymharu. Ar ddiwedd yr astudiaeth, bydd y ddau fath o ddysgu ar gael i bawb a gymerodd ran yn yr astudiaeth.

Bydd yr astudiaeth yn llywio ymgyrch fwy o'r enw "Person fel fi", sydd â'r nod o alluogi staff i gydnabod bod mwy o debygrwydd rhwng pobl na gwahaniaethau. Mae'n gobeithio cael gwared ar y "nhw a ni" sydd weithiau'n gallu bod yn rhan o ddiwylliant rhai cartrefi gofal. Bydd gwefan ar gyfer hyn a gall cartrefi gofal yng Nghymru gofrestru ar gyfer trafodaethau ar-lein, darllen blogiau a lawrlwytho posteri, fideos ac adnoddau addysgol eraill.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Lesley Butcher: butcherl3@abertawe.ac.uk

Deall a gwella lles meddyliol oedolion hŷn mewn gofal preswyl

Caitlin Reid, Prifysgol Abertawe

Yn aml, caiff lles meddyliol oedolion hŷn ei ddiystyru, er bod llawer sy'n achosi straen ac yn sbarduno problemau iechyd meddwl yn hwyrach ym mywyd, megis colli teulu a ffrindiau drwy brofedigaeth a cholli gallu, hunan-barch ac annibyniaeth. Mae ymchwil i brofiadau a safbwyntiau oedolion hŷn mewn gofal preswyl wedi bod yn gyfyngedig (Milne, 2010). Un o brif ganfyddiadau adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru "Lle i'w alw'n gartref" (2014) oedd bod risg bod oedolion hŷn yn cael eu sefydliadu mewn gofal preswyl. Byddai bod mewn amgylchedd o’r fath yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles unigolyn.

Nod yr astudiaeth yw datblygu dealltwriaeth well o les meddyliol oedolion hŷn sydd mewn gofal preswyl yn ne Cymru, ac archwilio ffyrdd o'i gynnal, ei wella ai'i hyrwyddo.

Methodoleg: Datblygwyd cynllun ymchwil dulliau cyfunol. Y cam cyntaf, meintiol oedd defnyddio Ffurflen Fer Continwwm Iechyd Meddwl i fesur lles meddyliol oedolion hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal (gwnaeth 141 o breswylwyr o 22 cartref gofal ei gwblhau). Defnyddiwyd canlyniadau'r cam cyntaf i lywio a datblygu cwestiynau cyfweliad ar gyfer ail gam ansoddol yr astudiaeth. Recriwtiwyd 20 o breswylwyr o 6 chartref gofal i gymryd rhan mewn cyfweliadau wedi'u hanner strwythuro, a drawsgrifwyd ac y caiff eu dadansoddi drwy ddefnyddio dadansoddiad thematig.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol fel a ganlyn: 

  • Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn fenywod (71%)
  • Oedran cymedr y cyfranogwyr oedd 86
  • Sgoriodd cyfranogwyr yn is mewn cwestiynau am y gymdeithas, cyfrifoldebau a phrofiadau ystyrlon
  • Mae'r MHC-SF yn dosbarthu cyfranogwyr fel "yn ddihoenllyd", "yn weddol iach yn feddyliol" neu "yn ffynnu"
  • Roedd gan gyfranogwyr a gawsant eu dosbarth fel "yn ddihoenllyd" oedran cymedr is (77)
  • Roedd oedran cymedr cyfranogwyr a oedd yn y categorïau "yn weddol iach yn feddyliol" ac "yn ffynnu" yn 87.

'HIRAETHU' –SIARADWYR CYMRAEG MEWN GOFAL

Ar lefel genedlaethol yng Nghymru, mae ymrwymiad clir i sicrhau statws cyfartal ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg mewn gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl gofyniad strategol a deddfwriaethol i gyflawni hyn. Er gwaethaf y datblygiadau hyn, mae’r bwlch rhwng agenda polisi ac ymarfer yn parhau, ac mae tystiolaeth yn nodi methiant gan ddarparwyr gofal cymdeithasol ac iechyd i roi'r mentrau cenedlaethol hyn ar waith. 

Mae'r heriau hyn yn anoddach byth o ganlyniad i ddiffyg ymchwil i ddarpariaeth, derbyniad ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol Cymraeg yng Nghymru. Mae'r ymchwil gyfyngedig sy'n bodoli yn datgelu diffyg ymwybyddiaeth o iaith ymhlith ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth nad yw eu hanghenion ieithyddol bob amser yn cael eu hystyried, sy'n andwyol i ansawdd gofal a lles defnyddwyr gwasanaeth (Roberts, 2007). Bydd y rhaglen arfaethedig yn:

  1. Archwilio graddau, natur ac ansawdd darpariaeth gofal cymdeithasol Gymraeg yng Nghymru.
  2. Archwilio cyfleoedd a rhwystrau i ddarpariaeth gofal cymdeithasol Gymraeg yng Nghymru.
  3. Archwilio canlyniad ac effaith darpariaeth gwasanaeth bresennol a bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth ar les y cyhoedd ac ymarferwyr.
  4. Gwneud argymhellion i bolisi cymdeithasol yng Nghymru a'r tu hwnt a chyd-lunio pecyn cymorth ymarferol i lywio ymarfer i fynd i'r afael â rhai o'r problemau a nodwyd yn yr ymchwil hon.

Cryfder allweddol yr astudiaeth arfaethedig hon yw bod ei datblygiad a'i chynnwys wedi dilyn ymagwedd "o'r gwaelod i fyny", gan gael ei harwain a'i llywio gan farn a phrofiadau'r cyhoedd ac ymarferwyr (mae'r darpar fyfyriwr yn ymarferwr) sydd wedi nodi angen cadarn am yr ymchwil hon. Bydd eu cyfranogiad ym mhob rhan o'r astudiaeth yn cynyddu eu hymdeimlad o berchnogaeth ac ymrwymiad i'r astudiaeth, a fydd yn cael goblygiadau cadarnhaol ar gyfer sicrhau'r atebion iawn a chynaliadwy ar gyfer y problemau a nodwyd.

Myfyrwraig PhD: Angharad Higgins