CYMORTH GOFAL IECHYD EFFEITHIOL AR GYFER ASTUDIAETH CARTREFI GOFAL

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Manceinion wedi bod yn archwilio sut orau i ddarparu cymorth gofal iechyd mewn cartrefi gofal ledled y DU. Mae'r ymchwilwyr yn dymuno diolch i holl reolwyr cartrefi gofal ENRICH Cymru a wnaeth gymryd rhan yn yr ymchwil hon drwy gwblhau holiadur. Recriwtiwyd nifer wych o gartrefi gofal ledled y DU, sef 89 ohonynt gan gynnwys 10 cartref hynod werthfawr o Gymru. Disgwylir adroddiad yr astudiaeth ddiwedd 2019 a chaiff ei rannu yma a chyda chartrefi gofal yn y rhwydwaith.

PERCH: ARCHWILIAD CYCHWYNNOL O RÔLPARAFEDDYGON MEWN CARTREFI GOFAL

Problem: Mae bron hanner miliwn o bobl yn byw mewn cartrefi gofal yn y DU. Mae gan feddygfeydd ddyletswydd i ddarparu gofal cychwynnol i breswylwyr, ond mae llawer yn cael anawsterau oherwydd galw uchel a diffyg staff. Yn y cyfamser, mae gwasanaethau ambiwlansys yn gweld cynnydd mewn nifer y galwadau 999 o gartrefi gofal. Wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn, un ymagwedd sy'n dod i'r amlwg yw cynnwys parafeddygon mewn cymorth rhagweithiol i gartrefi gofal, fel rhan o newid ar raddfa fawr tuag at barafeddygon yn gwneud gwaith gofal cychwynnol nad yw'n frys ac yn y gymuned. Ond mae newidiadau gweithlu mor sylweddol â hyn yn gofyn am werthusiad brys i ddeall y goblygiadau ar gyfer preswylwyr a staff cartrefi gofal ac i wasanaethau iechyd. Mae cartrefi gofal yn amgylchedd nad oes digon o ymchwil wedi'i gwneud iddynt, er gwaethaf anghenion iechyd uchel a gofal cymdeithasol preswylwyr. Ein nod ni oedd archwilio rôl parafeddygon mewn gofal nad yw'n frys mewn cartrefi gofal i gefnogi gwaith dylunio a darparu ymchwil portffolio yn y maes pwysig hwn sy'n dod i'r amlwg.

Ymagwedd: Casglwyd Grŵp Datblygu Ymchwil ar gyfer cartrefi gofal, gwasanaeth ambiwlansys, y Bwrdd Iechyd, gofal cychwynnol, cynrychiolwyr cyhoeddus ac academaidd ynghyd, a: 

  • chynhaliwyd ymweliadau a galwadau canfod ffeithiau i safleoedd lle mae parafeddygon eisoes yn darparu gofal nad yw'n frys i breswylwyr cartrefi gofal;
  • archwilio data ar alwadau 999 i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) o gartrefi gofal;
  • arolygu cartrefi gofal rhwydwaith ENRICH (Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal) yng Nghymru a gorllewin canolbarth Cymru ar rôl bosib parafeddygon sy'n gweithio'n rhagweithiol mewn cartrefi gofal;
  • cynnal gweithdy i randdeiliaid i nodi ac archwilio'r materion a oedd yn bwysig i'r gwaith hwn ym marn rhanddeiliaid.

Canlyniadau: Nodwyd sawl safle gennym yng Nghymru ac yn Lloegr lle mae parafeddygon yn darparu gofal cynlluniedig a rhagweithiol mewn cartrefi gofal, yn hytrach na gofal brys. Roedd modelau gweithredu yn amrywio, ac roedd parafeddygon wedi'u cyflogi gan wasanaethau ambiwlans, byrddau iechyd neu feddygfeydd. Mae data am alwadau 999 o fwy na 300 o gartrefi gofal yng Nghymru wedi cadarnhau cyfraddau galw o hyd at 20 y mis y cartref a chyfraddau trosglwyddo uchel (dros 60%). Cadarnhaodd ein harolwg, gyda thros 50 o reolwyr yn ymateb, ddiddordeb yn yr ymagwedd. Roedd rheolwyr yn meddwl bod sgiliau parafeddygol yn ddefnyddiol iawn wrth asesu preswylwyr, nodi problemau, gwella gofal ac osgoi derbyn cleifion i'r ysbyty. Roeddent yn rhagweld manteision i weithio rhyng-broffesiynol, cymorth clinigol a gofal sy'n canolbwyntio ar y person. Fodd bynnag, codwyd pryderon am ffiniau proffesiynol ac eglurder rolau a pholisïau. Cafodd y negeseuon hyn eu hatgyfnerthu yn ein gweithdai i randdeiliaid, lle amlygwyd gwerth asesiad cyflym prydlon, ynghyd â heriau cyllido a rheoli.

Goblygiadau: Mae rôl parafeddygon yn newid yn gyflym ac yn cael ei neilltuo i waith cychwynnol a chymunedol, gan gynnwys lleoliadau cartrefi gofal. Mae'n hollbwysig bod ymchwil yn cyd-fynd ag arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn eu llywio. Cyflwynwyd cais am ragor o gyllid i ddatblygu astudiaeth ddichonoldeb sy'n gwerthuso effaith parafeddygon sy'n gweithio yn y ffordd hon (PERCH 20).

ASESU MONITRWR GLWCOS ANFEWNWTHIOL - GLUCOBEAM MEWN CARTREFI GOFAL YN Y DU

Gall rheoli diabetes mewn cartrefi gofal a monitro lefelau glwcos preswylwyr hŷn fod yn anodd ac mae’n cymryd amser ar gyfer gweithwyr gofal. Mae'r system RSP yn datblygu monitor glwcos anfewnwthiol hwylus heb yr angen i dynnu gwaed. Bydd yn opsiwn diogel a hylan i'w ddefnyddio ar gyfer gweithwyr gofal, heb y risg o anafiadau oherwydd offer miniog ac mae’n ddi-boen i breswylwyr hŷn. Mae RSP wedi archwilio potensial y farchnad ar gyfer y monitrwr glwcos anfewnwthiol i gartrefi gofal yn y DU. Ymwelodd tîm o RSP Systems â phump cartref gofal (gan gynnwys dau yng ngogledd Cymru) i gynnal cyfweliadau ar sail holiadur â nyrsys a gofalwyr. Ar y cyfan, roedd y cartrefi gofal a gymerodd ran yn gadarnhaol iawn tuag at ddyfais GlucoBeam ac yn ystyried bod angen mawr am ddyfais anfewnwthiol. Fel cam nesaf, mae RSP Systems yn bwriadu dosbarthu arolwg ar gyfer cartrefi gofal yn y DU i hel barn llawer mwy o gyfranogwyr a bydd yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid gwahanol, gan gynnwys y GIG. E-bostiwch Dorte Pamperin am ragor o fanylion yn dorte@rspsystems.com

PROSIECTAU YMCHWIL I IECHYD GENEUOL - TOPIC; SENIOR; DECADE; FDI a VOICE

Mae pum prosiect a ariennir bellach ar y gweill gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol y Frenhines Belfast a Choleg Prifysgol Llundain, y mae llawer ohonynt yn cael eu cynnal ledled Cymru ac yn cael eu cefnogi gan y rhwydwaith ENRICH. Mae un prosiect (o'r enw TOPIC) yn ystyried sut mae cartrefi gofal yn deall ac yn defnyddio canllawiau NICE ar gyfer gofal iechyd geneuol mewn cartrefi gofal, gan ganolbwyntio ar asesiad iechyd geneuol a brwsio dannedd dyddiol â chymorth. Mewn astudiaeth arall (SENIOR), mae'r tîm yn ystyried cynnal treial i bennu a all gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol reoli anghenion deintyddol preswylwyr, o'u cymharu â deintyddion, sy'n anodd eu cyrchu’n aml iawn. Mae gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol yn ddosbarth arall o weithiwr deintyddol proffesiynol sy'n gallu darparu llawer o'r driniaeth y mae ei hangen ar breswylwyr cartrefi'n aml iawn, gan adeiladu ar brosiect sy'n bodoli eisoes yng Nghymru, sef Gwên am Byth. Mae'r tîm yn chwilio'n rhagweithiol am gartrefi gofal ledled Cymru a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth yn 2020. Cysylltwch â Paul Brocklehurst yn p.brocklehurst@banger.ac.uk am ragor o fanylion.

Mae pobl hŷn hefyd yn cael eu cynnwys mewn astudiaeth arall (DECADE) i ddeall y mathau o fesuriadau canlyniad y dylid eu defnyddio gan ymchwilwyr yng ngwaith y dyfodol. Mae'r astudiaeth hon yn defnyddio ymagwedd gydsyniol at yr hyn sy'n bwysig i bobl hŷn i sicrhau bod ymchwilwyr a phreswylwyr "ar yr un dudalen" wrth ddylunio ymyriadau i hyrwyddo iechyd geneuol. Mae'r tîm hefyd ar fin dechrau ar bedwerydd prosiect (FDI) sy'n ystyried sut i wella iechyd geneuol pobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain.

Mae'r pumed prosiect, a'r prosiect terfynol, sydd ar y gweill gan y tîm (VOICE) yn archwilio potensial defnyddio celf i gynrychioli a deall ystyr a phwysigrwydd iechyd geneuol i bobl hŷn sy'n dibynnu ar eraill ac sy'n byw mewn amgylchedd cartrefi gofal. Drwy fabwysiadu model "ymarferydd-ymchwilydd", caiff lleisiau go iawn pobl hŷn eu harchwilio gan "artist-fel-ymchwilydd" i ddiffinio ystyron diwylliannol i iechyd geneuol ar gyfer preswylwyr mewn cartrefi gofal. Yn yr astudiaeth hon, bydd delweddau gweledol yn unig yn gweithredu fel cyfrwng i chwalu rhwystrau a chreu llwybr i bobl ddatgelu eu barn a'u teimladau am eu profiadau o iechyd geneuol. Yn debyg i SENIOR, rydym ni'n chwilio am gartrefi gofal â diddordeb o bob rhan o rhwydwaith ENRICH.

ASTUDIAETH PhD - PA BOTENSIAL SYDD GAN GYNORTHWYWYR RHITHWIR I WELLA LLES OEDOLION HŶN?

Mae gan dechnoleg y potensial i hyrwyddo lles oedolion hŷn, gan leihau teimladau o unigrwydd a chefnogi lles seicolegol. Er gwaethaf hyn, mae'r rhyngweithio rhwng oedolion hŷn a thechnoleg yn faes nad oes digon o ymchwil wedi'i wneud iddo. Yn wir, prin yw'r sylw a roddwyd i'r berthynas rhwng technoleg a lles. Mae'r PhD hwn yn ceisio mwyhau lleisiau oedolion hŷn, sydd wedi'u heithrio’n ddigidol yn aml, wrth gyfrannu at dystiolaeth gadarn a luniwyd ar y cyd i lywio datblygiadau ystyrlon mewn gerontechnoleg.

Gan fabwysiadu cynllun ymchwil dulliau cymysg drwy lens batrymol drawsnewidiol, nod pennaf y PhD hwn yw taflu goleuni ar effaith cynorthwywyr rhithwir ar les oedolion hŷn sy'n byw mewn sawl cartref gofal ENRICH. 

Gan ddefnyddio cyd-gynhyrchu, caiff cynorthwywyr rhithwir eu teilwra i arwain at ganlyniadau ystyrlon gan gyfranogwyr. Byddwn yn rhoi cyfle i oedolion hŷn ac ymarferwyr ddefnyddio a mynegi eu barn am gynorthwywyr rhithwir, gan lywio datblygiad pecyn cymorth digidol a gyd-gynhyrchwyd a rhaglen manyleb sgiliau ar gyfer cynorthwywyr rhithwir y gofynnir amdani gan oedolion hŷn. Byddwn yn archwilio cyfranogiad ymarferwyr a'u lle fel hwyluswyr, i ddatblygu canllawiau arfer gorau ar gyfer cyflwyno cynorthwywyr rhithwir yn effeithiol mewn lleoliadau gofal. 

Laura Sheerman, Prifysgol Abertawe: 924355@abertawe.ac.uk