Mae My Home Life Cymru wedi llunio canllaw arfer da, yn dilyn prosiect o'r enw "Codi Ymwybyddiaeth o Atal Cwmpiadau mewn Cartrefi Gofal" a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.Ysgrifennwyd y canllaw mewn cydweithrediad â chartrefi gofal, yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio.

Canllaw Atal Cwympiadau My Home Life Cymru

Adnoddau a chysylltiadau

CareHome.co.uk

Y wefan fwyaf blaenllaw ar gyfer adolygiadau Cartrefi Gofal yn y DU sy’n cynnwys dros 18,505 o Gartrefi Gofal, dros 16 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn a 76,473 o adolygiadau Cartrefi Gofal.

Arolygiaeth Gofal Cymru

Corff cenedlaethol sy'n cofnodi, yn arolygu ac yn cymryd camau gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl hŷn yng Nghymru.

ENRICH (Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal) - Y DU

Gwefan y DU gyfan ar gyfer ENRICH yn Lloegr a'r Alban gydag ystod lawn o adnoddau ar gyfer staff Cartrefi Gofal a'r Gymuned Ymchwil

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW)

Corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi ac yn datblygu ymchwil ardderchog sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru.

Mae HCRW wedi creu 'Map Llwybr Ymchwil' a ddyluniwyd i helpu wrth arwain ymchwilwyr gofal iechyd a chymdeithasol drwy'r broses ymchwil. Ei nod yw rhoi i ymchwilwyr a thimoedd ymchwil arweiniad sy'n hawdd ei ddeall a'i ddefnyddio ar bob agwedd ar y broses ymchwil. Mae'n dangos yn glir y cymorth sydd ar gael gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac eraill, gan gynnig arweiniad, enghreifftiau o arfer gorau a dogfennau a thempledi allweddol

Ymunwch ag Ymchwil Dementia

Gall pobl a chanddynt ddementia neu broblemau gyda'u cof, eu gofalwyr a phawb sydd â diddordeb gofrestru. Hefyd gallwch gofrestru ar ran rhywun arall, cyhyd â bod gennych ei gydsyniad.

Cofrestru yw'r cam cyntaf wrth ddod yn rhan o gefnogi astudiaethau ymchwil hanfodol ar draws y genedl.

My Home Life

Menter sy'n hybu ansawdd bywyd ar draws y DU ac yn cyflawni newid cadarnhaol i bobl hŷn mewn cartrefi gofal

Canolfan PRIME Cymru

Canolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol a brys, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn datblygu a chydlynu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr. Mae'n Ganolfan ar gyfer Cymru gyfan a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia

Canolfan ymchwil o safon fyd-eang sy'n mynd i'r afael â chwestiynau o bwys rhyngwladol ym maes heneiddio a dementia. Mae'r Ganolfan yn cyfuno gweithgarwch amlddisgyblaethol ac yn datblygu meysydd arbenigedd o feysydd biolegol, seico-gymdeithasol ac amgylcheddol, i bolisi cymdeithasol ym maes heneiddio a dementia.

Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd yr Ysgol yn elwa o ymarferwyr gofal cymdeithasol a'r sector gofal cymdeithasol wrth eu cynorthwyo i ddatblygu eu hymchwil a'u dyheadau ymarfer ar sail tystiolaeth, ac elwa o ddarparwyr ymchwil wrth eu cefnogi i ymgysylltu â'r sector gofal cymdeithasol wrth gyflawni ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth parhaus go iawn.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru'n gweithio gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a sefydliadau er mwyn arwain gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru

Nod y sylfaen wybodaeth gyd-gynhyrchu yw casglu ynghyd mewn un lle gyfoeth o adnoddau defnyddiol am bob agwedd ar gyd-gynhyrchu a chyfeirio at fwy.

Y Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe

A hithau'n ganolfan flaenllaw Cymru ar gyfer astudiaethau heneiddio, mae'r Ganolfan Heneiddio Arloesol yn rhoi golwg gadarnhaol ar heneiddio a phobl hŷn wrth wraidd ei busnes, a thrwy ein hymchwil drawsnewidiol rydym yn sicrhau bod gofal, lles ac ansawdd bywyd wedi'u tanategu gan y syniadau gwreiddiol ac arloesol diweddaraf.