Mae Susie Moore wedi bod yn fydwraig ers 20 mlynedd ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau mamolaeth, o gartref y fam i ysbytai. Ar hyn o bryd, mae'n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ymarferydd cymwysedig datrys trawma geni.

Gwnaeth Sophie Cunningham gymhwyso fel bydwraig ym mis Medi 2009, ym Mhrifysgol Abertawe. Ers cymhwyso mae Sophie wedi cael amrywiaeth o brofiad mewn amrywiaeth o rolau gwahanol ym maes bydwreigiaeth, yn gweithio yn Llundain, Melbourne a Bryste cyn dychwelyd adref i weithio'n lleol fel bydwraig ac mewn rôl newydd a chyffrous fel darlithydd bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn 2014. Mae Sophie yn frwdfrydig am hyrwyddo dewis gwybodus i fenywod, i'w cynorthwyo yn y penderfyniadau niferus y gofynnir iddynt eu gwneud drwy gydol eu beichiogrwydd, eu cyfnod esgor ac wrth roi genedigaeth. Mae'n credu bod hyn yn dechrau gydag addysg ragorol i fydwragedd dan hyfforddiant, wrth eu helpu i ddeall y dystiolaeth sy'n llywio ymarfer bydwreigiaeth a'u grymuso, yn eu tro, i gefnogi a grymuso menywod yn eu gofal. 

Gwnaeth Alys Einion, Athro Cysylltiol bydwreigiaeth, gymhwyso fel bydwraig ym 1998 a daeth yn ddarlithydd yn 2005. Mae hi'n frwdfrydig am gefnogi menywod i fod yn hyderus yn eu gallu i roi genedigaeth a magu plant ac am ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb mewn bydwreigiaeth ac mewn addysg. Mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau a phenodau mewn cyfnodolion a llyfrau am fydwreigiaeth, rhywedd, rhywioldeb a therapïau cyflenwol. Mae Alys wedi cymhwyso fel bydwraig, therapydd cyflenwol ac ymarferydd hypnoenedigaeth ac mae'n cynnig dosbarthiadau hypnoenedigaeth yn yr Academi Iechyd a Llesiant. 

Mae Sarah Norris wedi bod yn fydwraig ers dros 20 mlynedd ac mae wedi gweithio mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Mae hi bellach yn athrawes bydwreigiaeth ac wedi'i hachredu fel ymarferydd Hypnoenedigaeth a therapydd Trawma Geni.

Graddiodd Lucy Evans fel bydwraig o Brifysgol Abertawe yn 2006. Ers hynny mae hi wedi cael ystod eang o brofiad clinigol mewn lleoliadau risg isel a risg uchel. Mae Lucy wedi gweithio'n lleol yng Nghymru yn ABMU ac yn Ysbyty Brenhinol Bournemouth a Choleg Imperial Llundain. Ymunodd â'r Tîm Darlithio yma yn Abertawe yn 2017 ac mae'n frwdfrydig iawn am hyrwyddo profiad cadarnhaol i fenywod a'u teuluoedd drwy gydol eu cyswllt â gwasanaethau mamolaeth. 

Dechreuodd Eleanor Healer ei gyrfa fel bydwraig dan hyfforddiant yn nwyrain Llundain lle cwblhaodd 3 blynedd o hyfforddiant yng nghymunedau amrywiol Whitechapel a Hackney. Daeth yn ôl i Gymru i weithio fel bydwraig newydd gymhwyso yng Nghaerdydd. Ar ôl cyfnod byr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, symudodd i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a threuliodd 5 mlynedd wych fel bydwraig integredig mewn canolfan eni annibynnol yng nghymoedd de Cymru. Yn 2010 penderfynodd Eleanor gymryd cam mawr a mynd yn ôl i'r brifysgol i ddilyn gradd meistr ôl-raddedig, ac yn 2011 cwblhaodd LLM mewn Cyfraith Feddygol o Brifysgol Caerdydd. Roedd hyn yn fan cychwyn i addysgu bydwragedd israddedig mewn bydwreigiaeth ac addysgu cyfraith feddygol i garfanau gofal iechyd eraill ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae wedi mwynhau gweithio ers mis Hydref 2011. Mae Eleanor yn frwdfrydig am gefnogi mamau a'u babanod yn eu taith bwydo babanod ac am y ffaith ei bod ar hyn o bryd yn hyfforddi i fod yn ymgynghorydd llaetha.