"Tua phum mis ar ôl bod yn feichiog am yr eildro, dechreuais brofi poen yng ngwregys y pelfis. O ganlyniad, roedd tasgau pob dydd syml fel gyrru, newid safle yn y gwely a cherdded i fyny grisiau yn achosi poen ofnadwy ac roedd hyn yn effeithio'n ddifrifol ar fy symudedd. Fel unigolyn iach, gyda lefel uchel o ffitrwydd, daeth y sgil effaith hon o feichiogrwydd fel sioc ac roedd meddwl am bedwar i bum mis arall o anghysur yn ymddangos yn annioddefol.

Ymwelais â'r Clinig Osteopatheg yn yr Academi Iechyd a Llesiant, lle gwnaethant ofyn i mi ddarparu hanes meddygol manwl a chael cyfres o brofion ac asesiadau syml. I ddechrau, roeddwn i'n amheus pa mor effeithiol fyddai'r driniaeth, gan mai ffocws y driniaeth gychwynnol oedd ffordd ysgafn iawn o drin y cyhyrau yn fy nghoesau. Fodd bynnag, o fewn dwy sesiwn, roedd y canlyniadau'n ddiamheuol. Roedd fy ngallu i symud yn rhydd wedi gwella'n rhyfeddol ac roedd y boen roeddwn i'n ei brofi wedi lleihau'n sylweddol.

Roedd Ellie, yr osteopath, yn gwneud i mi deimlo'n gyfforddus ac fy mod i’n gallu siarad drwy fy symptomau wythnos ar ôl wythnos. Gwrandawodd ar fy adborth a chyflwynodd ymarferion corff newydd i roi cynnig arnynt gartref. Yn gyffredinol, alla i ddim dychmygu sut y byddai hanner olaf fy meichiogrwydd wedi datblygu heb ymyrraeth gan yr Academi Iechyd a Llesiant. Rwyf bellach mewn sefyllfa lle rwy'n teimlo'n fwy hyderus a chryf yn gorfforol cyn fy nyddiad geni disgwyliedig a byddwn i'n argymell osteopatheg i unrhyw fam sy'n disgwyl sy'n profi poen neu anghysur."

- Lucy


"Es i i'r Clinig Osteopatheg am y tro cyntaf gyda fy machgen bach Toby pan oedd yn 10 wythnos oed. Roedd e'n cael anawsterau gydag adlif, a thyndra yn ei wddf. O’r apwyntiad cyntaf roeddwn i'n teimlo'n hyderus yn y cynllun triniaeth i Toby a gwelais welliant yn ei adlif a'i wddf ar unwaith. Roedd pawb yn y clinig, gan gynnwys y myfyrwyr a oedd yn rhoi triniaeth ac yn arsylwi ar y sesiwn bob amser yn broffesiynol, yn llawn gwybodaeth ac yn dangos gwir ddiddordeb yn lles Toby, a'm lles i. Fel mam am y tro cyntaf roeddwn i'n poeni cymaint ond roeddwn i bob amser yn teimlo'n dawelach fy meddwl gan y rhai oedd yn ei drin. Bonws ychwanegol oedd gwelliant yng nghwsg Toby, a gwelais hefyd fod cael triniaeth reolaidd yn golygu ei fod yn ymlacio wrth i ni newid ei ddillad ac yn ystod amser bath".

- Maggie