Mae'r angen i farchnadwyr feddwl yn greadigol yn ogystal ag yn strategol, yn bwysicach nawr nag erioed.

Mae cael eich bys ar y pwls yn hollbwysig, ond mae'r gallu i gyflwyno ymgyrchoedd unigryw, diddorol sy'n cael effaith gadarnhaol ar linell waelod eich sefydliad yn ogystal â phrofiadau cwsmeriaid, yn fwy felly.

Fel Canolfan Astudio'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) cymeradwy, bydd yr Ysgol Reolaeth yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i unigolion wrth i'r addysgu gael ei ddarparu gan ddarlithwyr sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant a'r byd academaidd.

Cewch gyfle i astudio ochr yn ochr â chyfoedion ar draws amrywiaeth o sectorau (sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector) a rhannu gwybodaeth, safbwyntiau a phrofiadau y gallwch fynd â nhw'n ôl i'ch sefydliadau unigol.

Mae tri chwrs ar gael yn yr Ysgol:

  • Diploma mewn Marchnata Proffesiynol – Lefel 6
  • Diploma mewn Marchnata Digidol Proffesiynol - Lefel 6
  • Tystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol – Lefel 4

Caiff y cyrsiau eu cynnal yn y Saesneg mewn cydweithrediad â CIM.

Ar gyfer pwy mae'r rhaglenni Diploma wedi'u cynllunio?

Mae'r rhaglenni Diploma wedi'u cynllunio ar gyfer rheolwyr marchnata a marchnadwyr sy'n gweithio mewn rolau gweithredol a goruchwylio, sy'n ceisio datblygu eu sgiliau strategol a rheoli.

Mae'r Diploma CIM yn lefel gyfatebol i radd israddedig.

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen Tystysgrif wedi'i chynllunio?

Mae'r Dystysgrif ar gyfer swyddogion marchnata gweithredol, neu gyfwerth, sydd wedi cael profiad yn y diwydiant ac sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa.

Gall cymhwyster CIM gael effaith sylweddol ar eich gyrfa ym maes marchnata

MATTHEW BREESE, TRAFNIDIAETH CYMRU

Man smiling to camera

Dywedodd Rheolwr Brand Trafnidiaeth Cymru a cyn-fyfyrwr y Diploma CIM Marchnata Proffesiynol:

"Chwaraeodd y cwrs hwn ran ganolog yn fy natblygiad fel marchnadwr. Yn Trafnidiaeth Cymru, fy nghyfrifoldeb i yw rheoli'r brand yn effeithiol; o ddatblygu'r strategaeth i gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol ar draws pob pwynt cyffwrdd marchnata.

"Fe wnaeth y cwrs fy helpu i sianelu meddwl strategol a sut y gallwn ddefnyddio tactegau creadigol yn effeithiol i gefnogi'r strategaeth sefydliadol. Roedd cael ein haddysgu gan ddarlithoedd gyda phrofiad marchnata ymarferol yn golygu bod trafodaethau yn y dosbarth yn fywiog, a gallai pob un ohonom ddod â'n profiadau marchnata proffesiynol ein hunain i'r bwrdd."

Dywedodd Rheolwr Partneriaethau Brand Confused.com a cyn-fyfyrwr y Diploma CIM Marchnata Proffesiynol:

"Yn fy rôl i, rwy'n gyfrifol am sicrhau a chyflwyno partneriaethau strategol sydd o fudd i gwsmeriaid a'n busnes. Mae'n ofynnol i mi weithio'n greadigol, nid yn unig gyda'r cynllunio cychwynnol ond drwy gydol y dadansoddiad o'r gwaith cyflawni ac ar ôl yr ymgyrch.

"Mae'r Diploma CIM yn cael effaith enfawr arnaf yn broffesiynol. Fe wnaeth fy helpu i feddwl yn wahanol a dysgu ffyrdd newydd i mi o fynd i'r afael â heriau. Roedd astudio ochr yn ochr â chyfoedion o amrywiaeth o sectorau hefyd yn amhrisiadwy, roeddem yn gallu rhannu profiadau a safbwyntiau sydd mor bwysig ym maes marchnata."

Ryan Parker, CONFUSED.COM

man smiling at camera