Gallwch wahaniaethu eich hunan a'ch sefydliad gyda'r cynnig Addysg Weithredol yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Archwiliwch ein cyrsiau hyblyg, ein galluoedd ymchwil a'n gwasanaethau ymgynghori - pob un wedi'i ddylunio i'ch cefnogi chi a'ch sefydliad wrth ddiogelu at y dyfodol, croesawu arloesi a bod ar flaen y gad.

Sylw ar...

Ein cyrsiau gorau i'ch trawsnewid chi a'ch sefydliad:

Cyrsiau'r Sefydliad Marchnata Siartredig

Fel Canolfan Astudio wedi'i chymeradwyo gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), gallwch astudio'r cyrsiau canlynol yn yr Ysgol a dod yn farchnatwr achrededig CIM er mwyn helpu i hybu llwyddiant o ran marchnata yn eich sefydliad.

  • Diploma mewn Marchnata Proffesiynol - Lefel 6
  • Diploma mewn Marchnata Digidol Proffesiynol - Lefel 6
  • Tystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol - Lefel 4

Dyddiad dechrau pob cwrs CIM: Medi 2021

MBA Rhan-Amser

Mae gan y cwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) rhan-amser yr hyblygrwydd gorau posibl, sy'n golygu bod modd rheoli ymrwymiadau gwaith a theuluol presennol ochr yn ochr â'ch astudiaethau. Mae'r rhaglen yn gwerthfawrogi gwerthoedd dynol yn ogystal â gwerth i randdeiliaid ac mae'n arfogi dysgwyr â sgiliau byd-eang ar gyfer trefnu a chydweithio, yn ogystal â chystadlu, yn y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae ei phwyslais ar ddychmygu posibiliadau'r dyfodol a chreu effaith ar  gymdeithas yn mynd i'r afael â'r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth a allai fod ym maes rheoli.

Strwythur y Cwrs: Mae'n cymryd dwy flynedd i gwblhau'r MBA rhan-amser, ac fe'i cyflwynir mewn modd cyfunol gan gynnwys seminarau wyneb-yn-wyneb dros y penwythnos a gynhelir bob 8-10 wythnos. Mynediad ym mis Medi 2021.

Hefyd, gellir cwblhau'r MBA fel rhaglen amser llawn ar gyfer y rhai sy'n gallu ymroi i astudio ar sail amser llawn am flwyddyn.

Dyddiad dechrau: Medi 2021

DBA Rhan-Amser

Mae'r ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser hon wedi'i dylunio ar gyfer uwch-reolwyr ac arweinwyr ledled pob sector; preifat, cyhoeddus a'r sector nid er elw. Mae'r Ddoethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes (DBA) ar gyfer y rhai sydd am ymchwilio mater penodol y mae ei sefydliad yn ei wynebu, gan herio'r sefyllfa bresennol i archwilio'n feirniadol a gwerthuso sut y gellir gwneud pethau'n well, yn fwy cynaliadwy a chan greu effaith fwy. Bydd DBA Abertawe yn eich galluogi i archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau yn eich sefydliad unigol gydag arweiniad gan dîm o academyddion sefydledig.

Strwythur y Cwrs: Rhaglen ran-amser am 4 blynedd yw'r DBA. Tra caiff eich ymchwil ei chynnal yn eich cyd-destun eich hun, caiff pob un o'r chwe modiwl ei strwythuro ar sail bloc addysgu dwys a fydd yn para tri diwrnod. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dod i weithdai wyneb-yn-wyneb ar ein Campws y Bae yn Abertawe ddwywaith y flwyddyn, yn ogystal â manteisio ar gymorth eich tîm goruchwylio a bod yn rhan o'r gymuned ymchwil yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe.

Dyddiad dechrau: Hydref 2021