Gan Dr Sally Lewis. Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol am Werth mewn Iechyd Cymru

Wrth i ni ddod allan o gyfnod gwaethaf y pandemig, rhaid i ni droi ein sylw at yr effaith mae wedi'i chael ar anghenion iechyd a gofal eraill sydd wedi cronni dros y cyfnod hwn.

Mae gwasanaethau iechyd a gofal yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael ag ôl-groniad yr anghenion amrywiol hyn oherwydd galwadau ar adnoddau sy'n gwrthdaro.

Mewn ymateb i'r heriau hyn, mae'n hanfodol ein bod ni'n mabwysiadu ymagwedd ar sail gwerthoedd at gyflwyno gwasanaethau sy'n blaenoriaethu anghenion mwyaf y boblogaeth ac yn cyfeirio adnoddau at le y byddant yn cael yr effaith fwyaf ar y canlyniadau sy'n bwysig i bobl. Bellach, ni ddylem ailgydio mewn arferion gwerth isel ond, yn hytrach, gyflymu datblygiad modelau newydd a mwy cydweithredol o iechyd a gofal os ydym ni'n mynd i ddiwallu anghenion pobl yn ein cymunedau mewn ffordd brydlon. (Lewis,S, 2020)

Yr effaith ar bobl hŷn

Mae gan COVID-19 effaith ddwys ar iechyd a lles y boblogaeth gyfan, ac yn enwedig y rhai hynny mewn grwpiau sy'n agored i niwed. Yn ddiweddar, es i i ddigwyddiad bord gron gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru lle trafododd grŵp amlddisgyblaethol sut y mae'r sefyllfa bresennol wedi effeithio ar bobl hŷn. Roedd pobl yn adrodd eu bod nhw'n profi unigrwydd ac arwahanrwydd a oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a lles. Roeddent yn ei chael hi'n anodd cyrchu gwasanaethau gofal iechyd (weithiau o ganlyniad i allgáu digidol) ac yn colli ffitrwydd corfforol o ganlyniad i aros yn eu cartrefi am gyfnodau estynedig. (Age UK, 2021) O ganlyniad, mae'r holl broblemau hyn yn creu baich llawer mwy o ran salwch ymhlith pobl hŷn.

Mae mynd i'r afael ag anghenion pobl hŷn bellach yn argyfwng. Mae peidio â chymryd camau'n debygol o achosi cynnydd mewn salwch ymhlith pobl hŷn fel effaith eilaidd Covid-19, gan roi mwy o bwysau ar systemau gofal iechyd yn fyd-eang. I atal hyn rhag digwydd, mae angen i ni fuddsoddi mewn ymagwedd gofal ac iechyd sy'n seiliedig ar werthoedd er mwyn i ni dargedu adnoddau i ble mae'r angen mwyaf ar eu cyfer, yn ogystal â sefydlu partneriaethau traws-sector arloesol i gyflawni hyn. Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl hŷn i ailsefydlu yn eu cymunedau, gan eu galluogi i ailgydio ag ymdeimlad o bwrpas a bod yn fwy bywiog. Mae'r gweithgareddau hyn, sydd y tu allan i ddarpariaeth gofal iechyd ffurfiol, yr un mor bwysig â chyflawni canlyniadau gwell i bobl hŷn a rhaid eu cefnogi fel rhan o becyn gofal gwerth uwch. (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 2021). Gwneud yr anweladwy'n weladwy

Felly ble dylwn ni ddechrau?

Mae anghenion pobl hŷn yn y gymuned wedi'u diffinio'n dda ond nid ydym ni bob amser yn meintioli'r canlyniadau a geir iddyn nhw a'u gofalwyr.  Mae angen i ni ddechrau fesur yr hyn sy’n bwysicach i bobl hŷn yn syth.

Mae'r Consortiwm Rhyngwladol dros Fesur Canlyniadau Iechyd (OCHOM) wedi sefydlu set safonol o fesuryddion canlyniadau i bobl hŷn (Akpan,A., et al, 2018). Mae’r mesuryddion canlyniadau hyn yn cynnwys canlyniadau corfforol (cwympo, er enghraifft) ond ffactorau pwysig eraill hefyd, megis rhai sy'n effeithio ar ansawdd bywyd mewn pobl hŷn megis unigrwydd, annibyniaeth, yr amser a dreulir yn yr ysbyty, baich ar ofalwyr, poen ac iechyd emosiynol.

Mae'n hanfodol ein bod ni'n meintioli ac yn mesur yr anghenion hyn fel y gallwn greu atebion ar y cyd i fynd i'r afael â'r problemau hyn ar frys, cyn y gaeaf nesaf. Os bydd data canlyniadau a adroddir gan gleifion yn weladwy i systemau iechyd a gofal, bydd yn ein helpu ni i wybod pa ganlyniadau sy’n bwysicach i bobl hŷn yn y gymuned, a fydd yn gwella eu hansawdd bywyd ac yn lleihau galw ar adnoddau iechyd acíwt.

Mae gennym gyfle i roi gofal ar sail gwerthoedd ar waith. Gadewch i ni ddefnyddio'r argyfwng hwn i gyflawni canlyniadau mwy cyfartal i holl aelodau ein cymdeithasau, yn enwedig ein dinasyddion hŷn.

Cyfeiriadau:

Age-friendly communities. (n.d.). Retrieved June 14, 2021, from olderpeoplewales.com/en/ageing-well/afcs.aspx

Age UK research on impact of the pandemic on our older population’s health. (n.d.). Retrieved June 11, 2021, from www.ageuk.org.uk/latest-press/articles/2020/10/age-uk--research-into-the-effects-of-the-pandemic-on-the-older-populations-health/

Akpan, A., Roberts, C., Bandeen-Roche, K., Batty, B., Bausewein, C., Bell, D., Bramley, D., Bynum, J., Cameron, I. D., Chen, L.-K., Ekdahl, A., Fertig, A., Gentry, T., Harkes, M., Haslehurst, D., Hope, J., Rodriguez Hurtado, D., Lyndon, H., Lynn, J., … Banerjee, J. (n.d.). Standard set of health outcome measures for older persons. doi.org/10.1186/s12877-017-0701-3

Lewis, S. (2021). The Challenge of maintaining good health outcomes for all during the COVID-19 pandemic—a view from family medicine in Wales, UK. In Journal of General and Family Medicine (Vol. 22, Issue 1, pp. 3–4). Wiley-Blackwell. doi.org/10.1002/jgf2.363

Ysgrifennwyd y Blog gan: Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol am Werth mewn Iechyd Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 13/07/2021

YMUNWCH Â NI I GLYWED MWY GAN DR SALLY LEWIS YN EIN DOSBARTH MEISTR YM MIS HYDRE

MWY GAN DR SALLY LEWIS

Dr. Sally Lewis fydd y siaradwr gwadd yn ein Dosbarth Meistr Iechyd a Gofal yn Seiliedig ar Werth a gynhelir ar 1 Hydref 2021. Ewch i’n tudalen Dosbarth Meistr am ragor o wybodaeth.