O ganlyniad i’r pandemig, mae systemau iechyd wedi wynebu heriau digynsail, yn enwedig o ran gofal pobl hŷn sy’n defnyddio cyfran sylweddol o adnoddau iechyd a gofal. Yn y dosbarth meistr hwn byddwn yn archwilio pam y mae ymagweddau sy’n Seiliedig ar Werth yn bwysig wrth i ofal iechyd adfer ar ôl COVID-19.   

Siaradwyr gwadd:

Dr. Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus sy’n seiliedig ar Werth

Sylfaenydd a Phartner Vintura a chyd-awdur yr adroddiad ‘Value-Based Healthcare: The answer to our health care challenges’ a gyhoeddwyd yn 2021. 

Ynglŷn â'r dosbarth meistr

Bydd Dr Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Doeth ar Sail Gwerth - Gwerth yng Nghymru, yn trafod sut y gellir defnyddio ymagweddau ar sail Gwerth ym maes gofal iechyd pobl hŷn wrth i systemau iechyd adfer wedi COVID-19.

Byddwn hefyd yn clywed gan Gérard Klop, sy’n sylfaenydd ymgynghoriaeth yr Iseldiroedd, Vintura, ac yn gyd-awdur adroddiad 2021  ’Value-Based Healthcare: The answer to our health care challenges', a fydd yn archwilio'r broses o roi VBHC ar waith yn yr amgylchedd ar ôl y pandemig.

‘Blaenoriaethau ar gyfer Adfer ar ôl COVID-19 yn Seiliedig ar Werth’