Crynodeb o'r Newyddion

Llawer o wynebau

Banc data o bwys byd-eang Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhin

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod y cyfraniad at wyddor data poblogaethau a wnaed gan y tîm arbenigol yn ei banc data o fri rhyngwladol, sef SAIL. Mae SAIL (Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw'n Ddiogel) yn rhan o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol ac mae'n dod â data o sawl ffynhonnell ynghyd, cyn ei gysylltu a’i ddadansoddi, er mwyn cyflwyno dealltwriaeth o boblogaethau i lywodraethau a llunwyr polisi.

Darllen mwy
Yr Athro Ian Whitaker a chydweithwyr

Astudiaeth fwyaf y byd o greithiau ar yr wyneb ac iechyd meddwl

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cwblhau astudiaeth fwyaf y byd o'r cysylltiad rhwng creithiau ar yr wyneb a gorbryder ac iselder.

Darllen mwy
Dyn yn y tywyllwch ar ei gyfrifiadur

Astudiaeth arloesol yn datgelu seicoleg canfod cariad incels

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn The Journal of Sex Research wedi datgelu byd cymhleth pobl sy'n sengl yn anwirfoddol, gan gynnig dealltwriaeth bwysig o'r heriau y mae cymuned gynyddol o ddynion a adwaenir yn incels yn eu hwynebu.

Darllen mwy
Yr Athro Siwan Davies, yr Athro Tom Crick a Dr Leighton Evans

Tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn Medalau gan Gymdeithas Ddysgedig

Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn un o fedalau blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni. Mae’r medalau yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn i ddathlu'r ymchwil ragorol sy'n dod o Gymru.

Darllen mwy
Dr Alexander Langlands

Dyfarniad newydd i annog prosiect treftadaeth

Mae Prifysgol Abertawe yn un o bum sefydliad addysg uwch ledled y DU i dderbyn dyfarniad gan raglen Cymunedau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gynnal Cynllun Peilot Ymarferydd Arloesi Cymunedol (CIP), ar gyfer prosiect a fydd yn archwilio ffyrdd o adfywio safleoedd treftadaeth yn y rhanbarth a fydd o fudd i gymunedau nawr ac yn y dyfodol.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Microalgâu mewn tiwbiau tal a gedwir mewn fframiau

Defnyddio algâu i lanhau allyriadau diwydiant

Mae nwyon gwastraff diwydiannol yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd sy’n datblygu. I liniaru hyn ac i helpu i lanhau’r nwyon gwastraff hyn o ddiwydiant lleol, mae Dr Emily Preedy, ynghyd â’i chyd-ymchwilwyr yn y prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), yn defnyddio carbon deuocsid gwastraff i helpu i dyfu micro-algâu a chreu cynhyrchion gwerth uchel defnyddiol.

Darllen mwy
Merched yn prynu bwyd o siop gwastraff isel

Deall Cynaliadwyedd Rhyngwladol a rôl defnyddwyr

Gan gydweithio ag academyddion ac arbenigwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae Dr Anita Zhao yn ceisio deall rôl defnyddwyr ac effaith eu penderfyniadau defnyddio ar gynaliadwyedd ac a oes modd iddynt chwarae rôl fwy dylanwadol tuag at gynaliadwyedd o fewn agenda rhyngwladol newid yn yr hinsawdd.

Darllen mwy
Menyw yn gweithio ar liniadur

Mynd i'r afael â thwyllo trwy gontract, rhith-awduron a melinau traethodau mewn

Mae niferoedd cynyddol o'r 200 miliwn a mwy o fyfyrwyr mewn Addysg Uwch (AU) yn fyd-eang yn talu i eraill gyflawni aseiniadau ar eu cyfer. Aeth yr Athro Phil Newton a'r Athro Michael Draper a'u tîm ati i gynnal arolygon mawr, gwaith ymchwil a dadansoddiadau o farn myfyrwyr a staff academaidd ar dwyllo trwy gontract a chyfreithlondeb melinau traethodau.

Darllen mwy

Ffocws Abertawe

Map o Ewrop

Ambell lygedyn o obaith ar y gorwel i ddiogelu ymchwil ac arloesi yng Nghymru

Mae ambell lygedyn o obaith ond mae colli Cronfeydd yr UE yn dal i beri bygythiad difrifol, yn ôl Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe.

Darllen mwy
Ieuenctid mewn hwdi

Podlediad: 'Can intervention prevent suicide in young people?'

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, Tymor 3, mae'r Athro Ann John yn archwilio atal hunanladdiad a hunan-niwed a sut y gall data dienw helpu i ddylunio ymyriadau a datblygu polisïau er mwyn llywio a hyfforddi gweithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad â’r rhai hynny sydd mewn perygl o hunanladd.

Rhybudd: Mae'r bennod hon o'r podlediad yn cynnwys trafodaethau am hunanladdiad, a allai fod yn boenus i rai unigolion.

Gwrandewch nawr
Golygfeydd naturiol hyfryd o afon yng nghoedwig werdd drofannol de-ddwyrain Asia gyda mynyddoedd yn y cefndir

'Forests are vital for the climate yet the world is falling behind its targets'

Mae'r byd ar ei hôl hi o ran ymrwymiadau i warchod ac adfer coedwigoedd, yn ôl yr Asesiad Datganiad Coedwig diweddar ond mae ymchwil newydd gan yr Athro Mary Gagen a'i thîm yn WWF UK yn nodi'r hyn mae angen ei wneud i atal coedwigoedd rhag methu

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Joe Whittaker

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Mae Dr Joe Whittaker yn ddarlithydd mewn Bygythiadau Seiber yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae wedi ymchwilio i sut mae systemau argymell platfformau cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo ac yn ehangu cynnwys asgell dde eithafol, yn ogystal â chyhoeddi ar bynciau fel gwrth-naratifau a gemau fideo eithafol.

Darllen mwy
Alisha Gibbons

Ymchwilydd ôl-raddedig

Mae Alisha Gibbons yn astudio PhD mewn Rheoli Busnes yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd rhaglenni rhagoriaeth weithrediadol, yn benodol y ffactorau mewn rhaglenni rhagoriaeth weithrediadol sy'n galluogi rhagoriaeth gyson drwy integreiddio systemau cymdeithasol-dechnegol.

Darllen mwy
logo Banc Data SAIL

Sefydliad Ymchwil

Mae Banc Data SAIL yn fan diogel ar gyfer biliynau o gofnodion yn ymwneud ag unigolion, sy’n galluogi ymchwilwyr i ateb cwestiynau pwysig er budd cymdeithas. Gall ymchwilwyr gael mynediad i amrywiaeth eang o ddata a gesglir fel mater o drefn, sy’n cwmpasu hyd at 30 mlynedd o boblogaeth gyfan.

Darllen mwy

Cydweithrediadau Ymchwil

Uwch gynrychiolwyr o’r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd a Phrifysgol Abertawe ar y safle sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Onllwyn.

Y Brifysgol yn cytuno ar bartneriaeth ymchwil newydd â’r Ganolfan Fyd-eang Rhago

Mae Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd wedi cytuno ar gydweithrediad ymchwil newydd o bwys yng nghartref y ganolfan sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn ne Cymru. Bydd y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yn safle ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf, profi ac arddangos cerbydau rheilffyrdd, isadeiledd a thechnolegau newydd arloesol ym maes rheilffyrdd.  

Darllen mwy
Aelodau o Genhadaeth Addysg Uwch y DU i Tsieina 2023

Prifysgol Abertawe'n helpu i gryfhau cysylltiadau academaidd rhwng y DU a Tsiein

Mae Prifysgol Abertawe ymhlith nifer bach o brifysgolion a wahoddwyd i ymuno â Chenhadaeth Addysg Uwch y DU i Tsieina 2023 i gryfhau cysylltiadau academaidd rhwng y ddwy wlad.

Darllen mwy
Dirprwyaeth o Maylasia

Mae Prifysgolion Cymru yn croesawu dirprwyaeth o Malaysia ac yn adeiladu partner

Mae arweinwyr o brifysgolion ym Malaysia wedi cael cipolwg unigryw ar yr hyn a gynigir gan addysg uwch yng Nghymru yn ystod ymweliad â Chymru dros chwe diwrnod.

Darllen mwy
Golygfa o'r awyr o ardal arbrofol ALPHA. Credyd delwedd: © CERN, Julien Marius Ordan

Cydweithrediad ALPHA yn CERN yn cadarnhau am y tro cyntaf bod gwrthfater yn disg

Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe, sy’n aelodau arweiniol o gydweithrediad ALPHA (Cyfarpar Ffiseg Laser Gwrth-hydrogen) yn CERN, wedi dangos, am y tro cyntaf, fod atomau gwrth-hydrogen yn disgyn i'r Ddaear yn yr un modd ag atomau mater.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.