Prosiect Amber (Horizon): dan arweiniad Prifysgol Abertawe, cymerodd ymchwilwyr gamau i helpu i ailgysylltu cannoedd o gilomedrau o afon rhag rhwystrau, gan wella ymfudo gan bysgod ac yn datblygu offer i helpu i reoli afonydd Ewrop yn y dyfodol.

Prosiect Amber (Horizon): dan arweiniad Prifysgol Abertawe, cymerodd ymchwilwyr gamau i helpu i ailgysylltu cannoedd o gilomedrau o afon rhag rhwystrau, gan wella ymfudo gan bysgod ac yn datblygu offer i helpu i reoli afonydd Ewrop yn y dyfodol.

Mae ambell lygedyn o obaith o'r diwedd i'r rhai hynny ohonom sydd am ddiogelu ymchwil ac arloesi yng Nghymru.  Er gwaethaf y newyddion da hyn, mae colli cyllid y Cronfeydd Strwythurol yn y DU yn dal i beri bygythiad difrifol, yn ol Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe.

Mae ambell lygedyn o obaith o'r diwedd i'r rhai hynny ohonom sydd am ddiogelu ymchwil ac arloesi yng Nghymru, ar ôl i'r DU golli mynediad at y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd o eleni.

Mewn colofnau blaenorol, rwyf wedi amlinellu mewn modd eglur iawn raddfa'r bygythiad, sy'n dal i fod yn ddifrifol. Mae'r Cronfeydd Strwythurol wedi bod yn anhepgor wrth gefnogi ymchwil ac arloesi yng Nghymru ac mae colli'r rhain yn parhau i fod yn destun pryder sylweddol i ni ym Mhrifysgol Abertawe ac ar draws ein sector. Fodd bynnag, mae'n bleser gennyf amlygu dau ddatblygiad diweddar cadarnhaol.

Y cyntaf yw'r ffaith bod y DU wedi ailymuno â rhaglen Horizon yr Undeb Ewropeaidd (UE) fel aelod cysylltiol, yn dilyn cytundeb rhwng llywodraeth y DU a'r UE.

Dyma newyddion da hirddisgwyliedig i ymchwilwyr a gwyddonwyr, a bydd yn arwain at fuddion cymdeithasol ac economaidd sylweddol i brifysgolion, busnesau, a busnesau bach a chanolig ledled y DU. Horizon, sydd â chyllideb o €95.5bn, yw'r rhaglen cyllido ymchwil ac arloesi fwyaf yn y byd, gan hwyluso cydweithrediad ystyrlon rhwng sefydliadau ymchwil ledled Ewrop ar raddfa sy'n hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf ein hoes.

Mae gan ymchwilwyr Abertawe hanes cryf o sicrhau cyllid gan Horizon a chydweithredu'n effeithiol â chydweithwyr Ewropeaidd. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys ein cyfranogiad yn Rhwydwaith Hyfforddiant Marie Curie, a ddatblygodd dechnoleg i wella'r ffordd y mae clefyd Alzheimer yn cael ei ddiagnosio, a Phrosiect Amber, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a alluogodd ymchwilwyr i chwalu rhwystrau diangen ar hyd cannoedd o gilometrau o afonydd yn Ewrop.

Er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch cysylltiad y DU â Horizon ers 2016, rydym wedi elwa o gynllun gwarant Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) i ddiogelu prosiectau'r DU sydd wedi'u cymeradwyo am gyllid Ewropeaidd Horizon, megis ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth i ddatblygu synwyryddion i ganfod biofarcwyr canser yr afu. Gan fod yr amwysedd wedi dod i ben o'r diwedd, gall ymchwilwyr ledled Cymru unwaith eto gyflwyno ceisiadau i Horizon a pharhau i gydweithredu â chydweithwyr ledled Ewrop ar brosiectau trawsnewidiol fel y rhain.

Yr ail ddarn o newyddion da yw bod llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Arloesi Rhanbarthol newydd gwerth £60m i gefnogi prifysgolion mewn ardaloedd lle ceir llai o fuddsoddiad mewn ymchwil a datblygu, ar ôl i'r DU golli mynediad at y Cronfeydd Strwythurol. Daw £3.4m o'r dyraniad hwn i Gymru.

Mae graddfa'r cyllid hwn yn gymharol fach ac mae'n llawer llai na hanner y£170m roedd ein sector wedi nodi y byddai ei angen er mwyn diogelu mewn modd ystyrlon y gweithgarwch ymchwil ac arloesi a ariannwyd gan y Cronfeydd Strwythurol ledled y DU dros y 18 mis nesaf.

Fodd bynnag, mae'n dangos bod llywodraeth y DU bellach yn cydnabod nad yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sydd wedi olynu’r Cronfeydd Strwythurol, yn ddigonol ar ei phen ei hun i gefnogi ehangder y gwaith ymchwil ac arloesi. Mae hefyd yn awgrymu bod llywodraeth y DU yn deall bod angen rhoi cymorth penodol i ymchwil ac arloesi ar lefel ranbarthol, i ategu ei blaenoriaethau ymchwil a datblygu uchelgeisiol, a diogelu ac ysgogi economïau lleol.  

Er gwaethaf y newyddion da hyn, mae colli cyllid y Cronfeydd Strwythurol yn y DU yn dal i beri bygythiad difrifol. Erbyn diwedd 2023, bydd 60 o brosiectau ymchwil mawr, sy'n cefnogi mwy na 1,000 o swyddi ledled Cymru, wedi dod i ben o ganlyniad i ddiffyg cyllid.

Mae annigonolrwydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wrth olynu Cronfeydd Strwythurol yr EU yn y tymor hir hefyd yn parhau. Fe'i gweinyddir gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau'r DU, nad oes ganddi brofiad o reoli ymchwil ac arloesi, ac nad yw'n addas, o ganlyniad i'w strwythur, ar gyfer cefnogi ymchwil ac arloesi sy'n cael effaith fawr. Dyrennir cyllid drwy awdurdodau lleol unigol a thros gyfnodau byr, sy'n heriol i brosiectau cydweithredol mawr, tymor hir ar draws rhanbarthau.  

Felly, er fy mod yn croesawu'r tri cham cadarnhaol hyn o ran Horizon a'r Gronfa Arloesi Rhanbarthol, y gwir plaen yw bod Prifysgol Abertawe wedi colli cyllid ymchwil gwerth oddeutu £25m y flwyddyn gan y Cronfeydd Strwythurol yn unig. Ni wnaed iawn am golli’r cyllid hwn.

Mae'r UE wedi deall ers cryn amser fod graddfa effaith prosiect ymchwil yn aml yn cyd-fynd â graddfa ei gyllid. Heb raglen ranbarthol tymor hir, addas at y diben i fuddsoddi mewn ymchwil yn y DU, parheir i amharu'n ddifrifol ar ein gallu i ddarparu'r effaith a all drawsnewid bywydau, cymdeithasau a'n planed. 

Rhannu'r stori