Mae’r datganiad hwn yn egluro sut y bydd yr adran Marchnata Ymchwil o fewn adran Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn trin ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn ystod ac ar ôl i’r berthynas gwblhau.

Bydd casglu eich data personol yn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’ch diddordebau a bydd yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â chi er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gweithgareddau, cyfleoedd a’n datblygiadau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth ac i fod yn dryloyw ynglŷn â’r wybodaeth sydd gennym. Fodd bynnag, os hoffech ddarllen mwy am ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw yn gyffredinol, ewch i dudalennau gwe Diogelu Data’r Brifysgol.

Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol

Prifysgol Abertawe yw'r rheolwr data ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu â nhw drwy e-bost

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol gan unigolion a sefydliadau sy'n dymuno derbyn cyfathrebiadau marchnata sy'n canolbwyntio ar Ymchwil gan Brifysgol Abertawe:

  • Enw’r unigolyn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r sefydliad (Os yw'n berthnasol)
  • Lleoliad y sefydliad

Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i roi gwybod i chi am ein newyddion,, ein digwyddiadau ac unrhyw ddatblygiadau a fyddai’n berthnasol i chi.

Mae’n bosib y bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu ag adrannau eraill o fewn y Brifysgol sy'n darparu gwasanaethau tebyg a allai fod o ddiddordeb i chi.

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu?

Mae cyfraith diogelu data yn disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n seiliedig ar gydsyniad neu at ddibenion y buddiannau cyfreithlon* a ddilynir gan y Brifysgol neu gan drydydd parti, ac eithrio pan fo buddiannau o'r fath yn cael eu diystyru gan fuddiannau neu hawliau sylfaenol a rhyddid gwrthrych y data sy'n gofyn am ddiogelu data personol.

*(Mae datganiad 47 o'r GDPR yn cydnabod y gellir ystyried bod prosesu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol yn cael ei wneud er budd cyfreithlon. Dim ond pan fydd asesiad buddiannau cyfreithlon wedi'i gynnal i sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac mewn ffyrdd y byddech yn rhesymol ddisgwyl ac sy'n cael cyn lleied o effaith breifatrwydd â phosibl y bydd prosesu o'r fath yn cael ei wneud, neu lle mae cyfiawnhad cymhellol dros y prosesu).

Pwy fydd yn derbyn eich gwybodaeth?

Prifysgol Abertawe fydd yn cadw gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar ein systemau a'n cronfeydd data electronig diogel a gall cydweithwyr o fewn y Brifysgol sydd â chaniatâd priodol i gael mynediad atynt. Caiff gwybodaeth bersonol ei diogelu gan y Brifysgol ac ni chaiff ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb ganiatâd penodol.

Mae’r wybodaeth ar gael i bersonél y mae angen mynediad arnynt mewn amgylchiadau cyfyngedig am y rhesymau a amlinellir uchod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Staff gweinyddol a marchnata'r Brifysgol

Sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio?

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, a bydd yr holl fesurau priodol yn cael eu cymryd i atal mynediad a datgeliad heb awdurdod.

Dim ond aelodau o staff y mae angen mynediad arnynt i rannau perthnasol o’ch gwybodaeth neu'ch holl wybodaeth, fydd wedi'u hawdurdodi i wneud hynny. Bydd gwybodaeth amdanoch ar ffurf electronig wedi’i diogelu gan gyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, ac yn cael ei chadw ar rwydweithiau diogel y brifysgol tra bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn mannau diogel gyda mynediad rheoledig.

Bydd y Brifysgol yn defnyddio systemau rheoli cynnwys trydydd parti sy'n defnyddio gwasanaethau cwmwl i brosesu data personol i anfon marchnata electronig uniongyrchol yn unol â chytundebau prosesu data'r UE/AEE.

Mae’n bosib y bydd adegau pan fydd eich data personol yn bodoli ar weinyddion y tu allan i'r UE. Lle ceir prosesu y tu allan i'r UE, bydd Prifysgol Abertawe yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau yn gyfreithlon ac yn gyfiawn yn unol â'r GDPR.

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Cedwir eich  data personol nes i chi ddewis dad-danysgrifio o Gyfathrebiadau Marchnata Ymchwil neu lle rydym yn nodi yn ystod ymarferion glanhau data blynyddol nad ydych bellach yn ymgysylltu â ni e.e. os byddwn yn sefydlu o ddadansoddiadau e-bost nad ydych yn agor yr e-gylchlythyr Momentwm.

Eich cyfrifoldebau

Rhowch wybod i'r tîm Marchnata Ymchwil drwy e-bost neu drwy ffonio 01792 606096 am unrhyw newidiadau i'ch enw, cyfeiriad, manylion cyswllt cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl fel y gallwn ddiwygio ein cofnodion yn unol â hynny.

Tynnu caniatâd yn ôl i dderbyn marchnata electronig

Os byddwch yn derbyn unrhyw negeseuon diangen, byddwch yn gallu dad-danysgrifio ar unrhyw adeg o unrhyw un o'n negeseuon e-bost.

Os ydych wedi rhoi caniatâd i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw ran o'ch data, yna mae gennych hawl hefyd i dynnu'r caniatâd hwnnw'n ôl a gofyn i'ch data gael ei ddileu pan nad ydych am dderbyn gwybodaeth farchnata mwyach.

Yn unol a’r ddeddfwriaeth, byddwn bob amser yn rhoi cyfle i chi ddewis peidio derbyn cyfathrebiadau marchnata perthnasol gan Marchnata Busnes yn y dyfodol.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu a symud eich gwybodaeth bersonol (sylwer, fodd bynnag, fod hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i roi cymorth i chi yn y ffordd fwyaf effeithiol, os o gwbl).

Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:-

Bev Buckley
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (FOI/DP), 
Swyddfa’r Is-Ganghellor, 
Prifysgol Abertawe, 
Parc Singleton, 
Abertawe, 
SA2 8PP

dataprotection@swansea.ac.uk 

Os ydych yn anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi'i phrosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn y lle cyntaf gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, yna mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, 
Wycliffe House, 
Water Lane, 
Wilmslow, 
Cheshire, 
SK9 5AF 

www.ico.org.uk

Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar y dudalen ho