Mae Joe Whittaker yn ddarlithydd mewn Bygythiadau Seiber yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae wedi ymchwilio i sut mae systemau argymell platfformau cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo ac yn ehangu cynnwys asgell dde eithafol, yn ogystal â chyhoeddi ar bynciau fel gwrth-naratifau a gemau fideo eithafol.

Beth yw'ch maes ymchwil?

Rydw i'n rhan o'r adran Droseddeg ac yn ymchwilio i'r ffyrdd y mae terfysgwyr ac eithafwyr yn defnyddio'r Rhyngrwyd.Mae hyn yn cynnwys creu cronfa ddata o 231 o derfysgwyr i ddadansoddi a gawsant eu radicaleiddio ar-lein; cynnal arbrofion er mwyn asesu a all algorithmau sy'n argymell yn y cyfryngau cymdeithasol gynyddu cynnwys eithafol; yn ogystal â'r ffyrdd y mae grwpiau terfysgwyr yn defnyddio gemau fideo. Rydw i hefyd yn ystyried sut rydym yn ymateb i eithafiaeth ar-lein, drwy reoleiddio cynnwys a thrwy ymyrraeth gadarnhaol megis gwrth-naratifau.

Dr Joe Whittaker

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Pan roeddwn i'n cwblhau fy ngradd MA yn 2014/15, roedd yr hyn a enwir yn Wladwriaeth Islamaidd ar ei hanterth yn Irac a Syria. Hynt a helynt y grŵp oedd y stori gyntaf ar y newyddion bob nos, ac ar dudalen flaen y papurau newydd. Roedd rhan fawr o'r cynnwys hwn yn ymwneud â sut roeddent yn manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i recriwtio mwy na 50,000 o bobl o bedwar ban byd i ymuno â'u hachos. Tua'r adeg hon, gwelais i hysbyseb i astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar bwnc radicaleiddio ar-lein, a gwnes i achub ar y cyfle ar unwaith.

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Fel y soniais amdano uchod, dechreuais i fy PhD yma yn 2016 yn yr adran Droseddeg. Wrth i mi gyflwyno fy nhraethawd ymchwil ar ddechrau 2020, ces i fy mhenodi yn diwtor, ac roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy mhenodi'n ddarlithydd yn yr haf yr un flwyddyn.

Drwy gydol fy amser yn Abertawe, rydw i wedi elwa'n fawr o'm cydweithwyr yn y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau. Mae tîm amlddisgyblaethol gennym yma, sydd wedi rhoi cynifer o safbwyntiau craff i mi ynghylch sut i feddwl am broblemau academaidd.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Mae dwy agwedd i'm nodau:

  1. Mae'n bwysig iawn creu gwybodaeth academaidd er ei mwyn ei hun, yn rhydd o ddylanwadau allanol, a throsglwyddo'r wybodaeth honno i fyfyrwyr drwy addysgu dan arweiniad ymchwil.
  2. Ar yr un pryd, rydw i'n credu'n gryf bod yn rhaid i academyddion siarad â rhanddeiliaid sydd â'r gallu i newid y byd. Mae'r maes hwn yn cynnwys y llywodraeth, gorfodi'r gyfraith, cwmnïau technoleg ac ymarferwyr.

Tra bod angen cydbwyso weithiau rhwng y ddau nod hyn, rydw i'n teimlo ei bod yn hollbwysig i lywio'r ddau.

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig? 

Gall fy ymchwil helpu llunwyr polisi i ystyried y cyfeiriad teithio ar gyfer deddfwriaeth. Yn bennaf, mae fy nghanfyddiadau'n bychanu'r syniad bod unigolion yn radicaleiddio ar-lein, ond bod rhyngweithiadau wyneb yn wyneb yn allweddol o hyd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae polisi gwrthderfysgaeth a gwrtheithafiaeth yn canolbwyntio'n fawr ar y Rhyngrwyd, ar draul ymyraethau yn y fan a'r lle efallai. Mae fy ymchwil yn awgrymu na ddylid rhoi blaenoriaeth i'r cyntaf ar draul yr ail.

Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil? 

Ar hyn o bryd, rydw i'n ysgrifennu am y ffyrdd rydym yn rheoleiddio llefaru eithafol ar-lein. Yn ogystal â materion rhyddid i lefaru, mae'n bosibl iawn ein bod yn helpu i hyrwyddo arloesi terfysgwr drwy eu gorfodi i ddod yn fwy gwydn i ddulliau gwaredu cynnwys. Mae fy ymchwil yn awgrymu y gallai hyn fod yn cynyddu'r tebygrwydd o gynllwynion terfysgwyr yn llwyddo. Rydw i'n gofyn a oes dulliau eraill y gellir eu rhoi ar waith yn effeithiol yn lle gwaredu cynnwys, megis israddio drwy algorithmau a gwrthddadlau.

Darganfod mwy am Dr Joe Whittaker