Ein llwybr ymchwilwyr gyrfaoedd cynnar Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe'n cydnabod y cyfraniad hollbwysig y mae ein staff ymchwil yn ei wneud i'n hymchwil rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n arwain y byd. Mae llwyddiant ein staff ymchwil yn sail i'n huchelgais a fydd yn gyrru ansawdd ymchwil yn ei flaen, yn creu amgylchedd addas i ymchwil ffynnu, tra'n sicrhau bod effaith ein hymchwil yn cael ei huchafu yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. I’r perwyl hwn, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd, datblygiad proffesiynol a diwylliant gwirioneddol gefnogol, lle gall ymchwilwyr ffynnu’n broffesiynol ac yn bersonol. Mae Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar (ECRs) yn arbennig o bwysig i gynnal ymchwil o ansawdd uchel ac mae ein Prifysgol wedi ymrwymo i werthfawrogi a hyrwyddo datblygiad gyrfa ar gyfer y grŵp amrywiol hwn o staff.

Mae'n bleser gennym rannu gyda chi ddetholiad o broffiliau sy'n manylu ar deithiau ein harweinwyr rhagorol yn y dyfodol.