Mae Dr Lowthian yn Ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Addysg a Phlentyndod, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei diddordebau ymchwil presennol yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), niwed eilaidd defnydd sylweddau gan rieni, a phlant sy'n agored i niwed (e.e. plant sy'n derbyn gofal).

Beth yw'ch maes ymchwil?

Ymchwilydd rhyngddisgyblaethol ydw i sy'n gweithio ar draws disgyblaethau cymdeithaseg, seicoleg ac iechyd  cyhoeddus. Fy nod yw deall a gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Mae fy mhrif brosiectau gwaith yn ymwneud â deall yr effeithiau eilaidd niweidiol ar ddeiliannau addysgol plant sy'n gysylltiedig â'u rhieni'n camddefnyddio sylweddau, profiadau niweidiol mewn plentyndod ac, yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn ymchwilio i iechyd a deilliannau addysgol plant sydd wedi cael profiad o'r system ofal.

Dr Emily Lowthian

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Wrth astudio am fy noethuriaeth, datblygais i ymhellach fy ngwybodaeth ystadegol uwch a chyfrannais i at nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys meta-ddadansoddiad ac ymchwil i ddefnydd e-sigarennau. Ces i fy nghyflogi fel Cydymaith Ymchwil am saith mis hefyd, yn gweithio ar draws tri phrosiect ar iechyd a lles plant. Tua diwedd fy rhaglen PhD, roeddwn i'n awyddus i ddatblygu fy sgiliau data ac ystadegol ymhellach, a dyna pryd penderfynais i gyflwyno cais am rôl Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe - yn yr Ysgol Feddygaeth - dywedais i mod i'n rhyngddisgyblaethol!

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Y rôl gyntaf oedd gen i ym Mhrifysgol Abertawe oedd gydag Ymchwil Data Iechyd y DU yn yr Adeilad Gwyddor Data. Cyflwynais i gais gan wybod byddwn i'n gwella fy nealltwriaeth o gysylltedd data ac ystadegau uwch. Treuliais i ychydig dros flwyddyn yn fy swydd gyntaf, gan gefnogi gwaith ar y rhaglen frechu ar gyfer COVID-19 a'i heffeithiolrwydd, a pherthnasoedd rhwng mamau a'u plant. Dechreuais i hiraethu am faes a oedd yn teimlo fel cartref i mi, sef y gwyddorau cymdeithasol, felly cyflwynais i gais am swydd Darlithydd yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Mae hi wedi bod yn dipyn o daith yn ystod blwyddyn gyntaf fy rôl, ond dwi'n ffyddiog mai dyma'r rôl berffaith i mi.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Gormod o bethau, a dweud y gwir. Ond dwi am gael effaith - effaith yng ngwir ystyr y gair - ymchwil sy'n cyrraedd y grwpiau dan sylw ac yn dylanwadu arnyn nhw. Er enghraifft, enillais i a Dr Anthony gyllid gan eNurture (UKRI) i archwilio ymddygiadau cyfathrebu pobl ifanc yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, a sut gall hyn fod yn gysylltiedig â'u lles meddyliol, corfforol a chymdeithasol. Gwnaethon ni gynnwys llais y bobl ifanc drwy gydol y prosiect hwn, o ran y mesurau, y dadansoddiad ac wrth ddatblygu adnoddau. 

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig? 

Mewn llawer o ffyrdd gwahanol, ar lawer o lefelau gwahanol, yn fy marn i. Felly, mae'r ymchwil i'r cyfryngau cymdeithasol soniais i amdani uchod yn ceisio cefnogi pobl ifanc i ddeall eu gweithgarwch ar-lein a'r cysylltiad â'u lles cyffredinol yn well - hoffwn i ddatblygu hyn ymhellach.

Ar lefelau uwch, rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil i blant sydd â phrofiad o'r system ofal yn cefnogi ymarferwyr a llunwyr polisi yn y maes drwy ddarparu adroddiad yn seiliedig ar atebion, wedi'i lywio gan athrawon, y rhai sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol a phlant sydd wedi cael profiad o ofal; rwyf wedi myfyrio'n ddiweddar ar fy rôl academaidd ac wedi dod i'r casgliad nad yw'r ymagwedd academaidd yn addas i bawb.

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig? 

Rhoi ar waith y tri chynnig llwyddiannus dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw'n bennaf. Ochr yn ochr â'r prosiect ymchwil i blant â phrofiad o'r system ofal, sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar y cyd â'r Athro Tom Crick (a llawer eraill), dwi hefyd yn cael fy ariannu gan  Sefydliad Nuffield, ar y cyd â Dr Cathryn Knight (bellach ym Mryste, ond o Abertawe'n wreiddiol).

Byddwn ni'n archwilio cyrhaeddiad addysgol plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Y tu allan i'r gwaith hwn, dwi'n gweithio tuag at gyhoeddi papur olaf 'triawd fy PhD', rhywfaint o waith o fy rôl Gwyddor Data a syniadau nad oeddwn i'n gallu eu hanwybyddu a llwyddais i neilltuo amser i'w harchwilio.

Darganfod mwy am Dr Emily Lowthian