Mae Dr Sara Sharifzadeh yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg. Mae ei phif feysydd ymchwil yn cynnwys dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial, dadansoddi data amlamryweb a’i ddefnyddio wrth ddadansoddi signalau/delweddau, iechyd digidol e.e. adnabod gweithgarwch dynol, dadansoddi delweddau lloeren a dadansoddi data cwmwl pwynt 3D a geir o synwyryddion sganiwr laser ar robotiaid.

Beth yw'ch maes ymchwil?

Fy maes ymchwil yw gweledigaeth gyfrifiadurol, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol. Bues i'n gweithio ar ddatblygu algorithmau deallusrwydd artiffisial newydd ar gyfer dadansoddi delweddau amlsbectrol yn ystod fy PhD a data cymylau pwyntiau 3D synwyryddion digidol at ddibenion robotig yn ystod fy nghyfnod ôl-ddoethurol.

Yn ddiweddar, rwyf wedi canolbwyntio ar synhwyro o bell a phroblemau dadansoddi data iechyd digidol, gan gydweithredu ag ymchwilwyr eraill ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Dr Sara Sharifzadeh

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Pan oeddwn i yn fy arddegau, roeddwn i'n mwynhau datrys problemau mathemategol a'm diddordebau oedd paentio a daearyddiaeth. Dechreuodd fy addysg ym maes prosesu signalau ac ar ôl astudio'r modiwl prosesu delweddau yn ystod fy ngradd MSc gyntaf, des i'n gyfarwydd â thechnegau dysgu peirianyddol a ddefnyddir i ddadansoddi delweddau ac roedd yn faes ymchwil o ddiddordeb i mi. Y rhesymau dros hynny oedd fy mod i'n mwynhau datrys problemau a dadansoddi data, yn enwedig delweddau digidol.

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Rwy'n mwynhau gweithio yn y sector academaidd, yn enwedig fel ymchwilydd. Mae Prifysgol Abertawe'n rhoi pwyslais ar ymchwil ac yn caniatáu i'w hacademyddion ddilyn eu targedau ymchwil eu hunain, gan gyflawni cydbwysedd rhwng eu cyfrifoldebau addysgu ac ymchwil. Ym Mhrifysgol Abertawe, des i o hyd i gymuned groesawgar o ymchwilwyr mewn meysydd amrywiol ac amgylchedd cefnogol i academyddion fel minnau a oedd ag uchelgeisiau ymchwil. Mae hynny'n cyd-fynd â'm diddordebau gyrfaol, felly rwyf wedi penderfynu gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Hoffwn i hyrwyddo ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial at ddibenion problemau gweledigaeth gyfrifiadurol, drwy ddatblygu algorithmau newydd ar gyfer yr heriau presennol. At y diben hwn, rwy'n gobeithio llwyddo i sicrhau cyllid ymchwil er mwyn creu tîm ymchwil cryf. Rwy'n gobeithio gweithio gydag ymchwilwyr sy'n uchel eu cymhelliad i weithio ar broblemau deallusrwydd artiffisial ac sy'n meddu ar feddylfryd arloesol ac yn mwynhau gwaith ymchwil cydweithredol.

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?

Dibenion arbennig fy ymchwil yw (1) dadansoddi data drwy ddulliau synhwyro o bell i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol, megis newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â (2) dadansoddi data drwy synwyryddion digidol i fonitro iechyd poblogaeth oedrannus. Mae effaith werthfawr y llwybrau ymchwil hyn yn fy ysgogi i barhau i ymchwilio yn y maes hwn.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?

Mae heriau pwysig yn weddill wrth ddadansoddi data a geir drwy ddulliau synhwyro o bell a data hinsoddol o ganlyniad i brinder y delweddau lloeren hanesyddol o safon uchel a natur ddistrwythur y data amgylcheddol ac amaethyddol ar gyfer datblygu modelau rhagfynegi o safon uchel. Yn ogystal, mae perthnasoedd aneglur rhwng rhai o'r ffactorau amgylcheddol a hinsoddol a'u heffaith ar gynhyrchiant amaethyddol lle ceir newid yn yr hinsawdd. Yn hyn o beth, rhaid datblygu cenhedlaeth nesaf o dechnegau deallusrwydd artiffisial a fydd yn llenwi'r bylchau o ran ansawdd data a gwreiddio ffactorau newydd yn y modelau ar gyfer ateb y cwestiynau hyn a llywio polisïau addasu amaethyddol mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd.  
 
O ran defnyddio deallusrwydd artiffisial ym maes iechyd digidol, mae nifer cynyddol y poblogaethau oedrannus ledled y byd, ynghyd â’r prinder staff meddygol, wedi cynyddu'r angen i ddatblygu dulliau deallus o fonitro iechyd. Mae angen sylweddol am ddatblygu systemau monitro iechyd clyfar sy'n gallu monitro iechyd a lles yr henoed mewn ardaloedd preswyl er mwyn eu helpu i fyw'n annibynnol yn hirach, gan ddiogelu eu preifatrwydd ar yr un pryd. Dyma'r prif bryderon y dylid mynd i'r afael â nhw wrth ddatblygu atebion drwy ddeallusrwydd artiffisial yn y dyfodol.  

Darganfod mwy am Dr Sara Sharifzadeh